Therapiydd Galwedigaethol - Gwasanaethau Adnoddau Cyrff Cymunedol
Cyflogwr
Vale of Glamorgan County Council / Cyngor Bro Morgannwg
Lleoliad
-
Bro Morgannwg
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £37,280 - £40,777 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Amdanom ni
Tîm iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector integredig yw Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro sy'n gweithio ar y cyd â gwasanaethau eraill ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym yn gweithio gyda phobl yn eu cartrefi eu hunain i sicrhau’r annibyniaeth swyddogaethol orau posibl o ran gweithgareddau bywyd bob dydd, ac yn y ffordd hon lleihau’r angen am fynd i’r ysbyty a gwasanaethau gofal am dymor hwy. Rydym hefyd yn cynnig ymyrraeth therapiwtig a chymorth ail-alluogi i bobl ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r ysbyty, gan sicrhau trosglwyddiad di-dor ac amserol. Ein nod yw darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ymyrraeth therapiwtig. Rydym yn cydweithio â'r unigolyn tuag at gyflawni nodau sydd wedi'u nodi ar y cyd.
Mae ein tîm yn cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol, Ffisiotherapyddion, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Dietegwyr, Nyrsys, staff Cydlynu Gofal a Gweithwyr Cymorth Ail-alluogi.
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Tâl: Gradd 8 (£37,280- £40,777 y flwyddyn)
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein