Therapydd Galwedigaethol / Therapydd Galwedigaethol Profiadol – Carfan Addasu ac Offer (ACE).
Therapydd Galwedigaethol, llawn amser (37 awr), swydd barhaol
Tŷ Elái, Trewiliam, CF40 1NY
Gradd 11 (£42,839) – Gradd gychwynnol ar gyfer Therapydd Galwedigaethol wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Gradd 12 (£46,142) – Gradd Therapydd Galwedigaethol Profiadol – o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, gan gynnwys o leiaf 1 flwyddyn mewn lleoliad cymunedol, a bod wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swydd Therapydd Galwedigaethol yn rhan o'i Garfan Addasu ac Offer (ACE).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn chwilio am Therapyddion Galwedigaethol brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol i Oedolion. Dyma gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifainc, oedolion a'u cynhalwyr ledled Rhondda Cynon Taf.
A chithau'n Therapydd Galwedigaethol, byddwch chi'n darparu gwasanaethau therapi galwedigaethol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y person, gan hyrwyddo annibyniaeth, lles a chynhwysiant cymdeithasol. Byddwch chi'n rheoli llwyth gwaith â nifer benodol o achosion, gan gynnal asesiadau, ymyraethau ac adolygiadau cymhleth, a gweithio ar y cyd ag unigolion, teuluoedd, cynhalwyr ac asiantaethau partner.
Byddwch chi'n ymarfer yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn rhoi ymyraethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith, ac yn defnyddio dulliau rheoli risg cadarn i gyflawni deilliannau cadarnhaol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynnal asesiadau ac adolygiadau therapi galwedigaethol arbenigol ar gyfer oedolion a'u cynhalwyr
- Rhagnodi offer, addasiadau ac ymyraethau i hybu annibyniaeth a hwyluso deilliannau gweithredol
- Llunio cynlluniau gydag unigolion, gan ganolbwyntio ar gryfderau, dewisiadau a'r atebion lleiaf cyfyngol
- Gweithio ar y cyd â phartneriaid Tai, Iechyd ac asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill
- Diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn unol â gweithdrefnau lleol a chenedlaethol
- Cadw cofnodion cywir, cyfredol a phroffesiynol yn unol â pholisïau a safonau proffesiynol
- Rheoli a blaenoriaethu eich llwyth achosion yn effeithiol er mwyn darparu gwasanaethau effeithlon
- Cymryd rhan weithredol mewn gwaith goruchwylio, gwerthuso a datblygu proffesiynol parhaus
Byddwch chi'n Therapydd Galwedigaethol cymwysedig wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), gyda'r cymhelliant a'r sgiliau i weithio'n hyblyg ar draws lleoliadau yn y gymuned. Byddwch chi'n arfer eich barn broffesiynol, sgiliau cyfathrebu cryf, ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cynhwysol a gwrthwahaniaethol.
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan Therapyddion Galwedigaethol sydd newydd gymhwyso, a fydd yn cael eu cefnogi trwy Raglen Datblygu 'Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer' RhCT, yn ogystal ag ymarferwyr profiadol.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gwasanaethau Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Therapi Galwedigaethol, a phecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynllun 'Beicio i'r Gwaith'.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa yn y maes Therapi Galwedigaethol, byddwch chi'n derbyn cymorth i gwblhau ein rhaglen, Y Flwyddyn Gyntaf yn Ymarfer. Y nod o ran y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Therapi Galwedigaethol proffesiynol cydnabyddedig ac mae disgwyl i chi fod wedi'ch cofrestru'n &slshquot;Therapydd Galwedigaethol&slshquot; gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal adeg eich penodi, a'ch bod yn cynnal y cofrestriad hwnnw ar ôl eich penodi.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Therapydd Galwedigaethol (GR11) neu Therapydd Galwedigaethol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais am swydd Therapydd Galwedigaethol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth yn y cyfweliad eu bod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, a bod gyda nhw 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, gan gynnwys o leiaf 1 flwyddyn mewn lleoliad cymunedol. Rhaid i ymgeiswyr sy'n dechrau eu gyrfa gyda RhCT mewn swydd Therapydd Galwedigaethol Profiadol fod yn barod i gwblhau Rhestr Wirio Tystiolaeth Fframwaith Dilyniant RhCT o fewn chwe mis cyntaf eu cyflogaeth.
Am ragor o wybodaeth ac i gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Lynette Evans – Rheolwr Gweithredol ar gyfer Addasu ac Offer/Gwasanaethau Synhwyraidd ar 07898854232 neu 01443 425765
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
- Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Cerdyn gostyngiadau Vivup
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.