Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Community Occupational Therapists
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Swydd barhaol 37 awr yr wythnos
G08 - G09 £32,076 - £38,223 pro rata y flwyddyn
Mae ein Tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio gydag achosion sy'n amrywio o ail-alluogi pobl hÅ•n, i bobl ifanc ag anableddau. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth ac mae gennym strwythur staffio sy'n cefnogi gweithwyr gyda'u datblygiad proffesiynol parhaus ac i ddringo'r ysgol yrfa.
Os ydych chi'n llawn cymhelliant a brwdfrydedd dros wella gwasanaethau'n barhaus i bobl hÅ•n, oedolion diamddiffyn, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, yna gallwn gynnig goruchwyliaeth a chefnogaeth reolaidd i chi, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a hyfforddiant i'ch galluogi chi i ddarparu gwasanaeth o safon uchel. Rhoddir cefnogaeth i'r rheiny sydd â llai o brofiad i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwyseddau, ac wedi'u cael, i symud i radd uwch.
Rydym yn chwilio am Therapyddion Galwedigaethol gyda'r potensial i ddarparu ystod eang o asesiadau ac ymyriadau a allai gynnwys ail-alluogi, codi a chario, darparu cyngor i ofalwyr ac i asesu a darparu offer ac addasiadau i alluogi pobl i fodloni eu canlyniadau lles. Defnyddir y sgiliau hyn hefyd i gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain mor hir â phosibl.
Mae gradd neu ddiploma mewn Therapi Galwedigaethol a chofrestriad HCPC cyfredol yn hanfodol, ac mae'r swydd yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am drafodaeth anffurfiol am y swyddi, cysylltwch â Cressida Travis neu Joanna Maddison ar 01978 298003/298008.
I gael pecyn cais, cysylltwch â'r Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY drwy ffonio 01978 292012 neu e-bostio hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais pdf sydd ar gael ar y dudalen we.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Welsh Jo... (.docx) (48kb) , English ... (.docx) (48kb)
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr