Ynglŷn â'r rôl
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.
Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2027.
Llawn amser – 37 awr yr wythnos, Llun i Wener, swydd barhaol.
Gellir ystyried trefniadau gweithio amgen ar sail llawn amser ar gyfer yr ymgeisydd addas.
Tîm Therapi Galwedigaethol Integredig Cyngor Ceredigion
Ydych chi’n Therapydd Galwedigaethol newydd gymhwyso neu brofiadol sy’n angerddol am ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon? Ydych chi’n gwerthfawrogi gweithio mewn sefydliad blaengar sy’n rhoi llesiant wrth galon ei waith? Os felly, darllenwch ymlaen.
Yn sgil twf parhaus y tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant O Bob Oed, mae’r swydd hon wedi’i chreu. Mae’n cynnig cyfle unigryw i reoli llwyth achosion clinigol O Bob Oed, gan ddatblygu sgiliau asesu ac ymyrryd mewn pediatreg ochr yn ochr â gweithio gydag oedolion. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd eang a chyffrous ar gyfer datblygiad proffesiynol ym meysydd gofal a alluogir gan dechnoleg, Canolfan Byw’n Annibynnol Penmorfa a brysbennu.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan Therapyddion Galwedigaethol sydd newydd gymhwyso ac sydd ag angerdd dros waith cymunedol ac sydd am gael cefnogaeth i ddatblygu sgiliau ac arbenigeddau arbenigol.
Pwrpas y Swydd
- Defnyddio sgiliau a safbwynt unigryw Therapi Galwedigaethol i helpu Cyngor Ceredigion i ddarparu gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
- Cyfrannu at dîm Therapi Galwedigaethol sy’n ymrwymedig i ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac i gefnogi ei gilydd.
- Rheoli llwyth achosion clinigol amrywiol yn y gymuned, gan gyflawni asesiadau ac ymyriadau yng nghartrefi pobl.
- Mabwysiadu agwedd o ddysgu parhaus wrth ddatblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol.
O ddydd i ddydd
Byddwch yn defnyddio sgiliau a dulliau asesu Therapi Galwedigaethol yn weithredol, gan weithio’n uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth yn eu cartrefi i leihau risg a hybu annibyniaeth o’r pwynt cyswllt cyntaf â gwasanaethau cymdeithasol.
Byddwch yn datblygu perthnasoedd proffesiynol cynhyrchiol a dealltwriaeth fanwl o wasanaethau Ceredigion. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pobl yn cael y cyngor, y wybodaeth a’r mynediad at wasanaethau priodol mewn modd amserol, gan wneud y mwyaf o’u hansawdd bywyd a’u canlyniadau personol ystyrlon.
Byddwch hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi staff nad ydynt yn gymwysedig ac wrth helpu i gyflwyno arloesedd a newid cadarnhaol fel rhan o Dîm Ceredigion.
Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant O Bob Oed
Rydym yn angerddol am y gwasanaeth person ganolog, o ansawdd uchel rydym yn ei ddarparu i bobl Ceredigion a’r safbwynt unigryw y mae ein proffesiwn yn ei gynnig i’r sefydliad ehangach. Credwn fod gan bobl hawl i gyflawni eu potensial llawn ar bob cam o fywyd.
Rydym yn falch o’n diwylliant tîm cefnogol. Rydym yn rhannu ein cryfderau, ein sgiliau proffesiynol a’n gwybodaeth eang, o fewn Therapi Galwedigaethol ac ochr yn ochr â chydweithwyr mewn Timau Amlddisgyblaethol (MDT).
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwys, gallwch ddisgwyl goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd ac amser wedi’i ddiogelu ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
Ein nod yw galluogi pobl i wneud y mwyaf o’u hannibyniaeth wrth ddefnyddio adnoddau’n deg ac yn gyfrifol, yn unol â’n cyfrifoldebau proffesiynol a statudol. Mae gan y tîm arbenigedd mewn:
- Addasiadau
- Gweithio gyda phobl a theuluoedd ar bob cam o fywyd
- Technegau a chyfarpar trin a chodi
- Asesiadau swyddogaethol
- Grymuso pobl sydd â chyflyrau cymhleth hirdymor
- Defnyddio dulliau cydadferol, adsefydlu ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Gweithio amlddisgyblaethol
- Canfod ffyrdd arloesol o helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwys, byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau asesu a rhesymu clinigol cadarn, a gallu egluro sut a pham rydych yn gwneud penderfyniadau. Bydd gennych ymwybyddiaeth broffesiynol dda ohonoch eich hun, dealltwriaeth o ffiniau eich cymhwysedd eich hun, a byddwch yn gwneud defnydd effeithiol o oruchwyliaeth a chefnogaeth. Bydd gennych awydd i ddysgu, gweithio’n galed a rhannu eich gwybodaeth.
Yn anad dim, rydym yn chwilio am rywun sy’n rhannu ein hangerdd dros arloesedd, gwaith tîm a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn dîm cefnogol, ond mae gennym hefyd ddisgwyliadau uchel ohonom ein hunain ac o’n gilydd. Mae cyfraniad pawb yn bwysig.
Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd, cysylltwch â ni i drafod y cyfle cyffrous hwn neu gwnewch gais heddiw.
Mae’r Disgrifiad Swydd sy’n gysylltiedig â’r rôl hon yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Mae’r swydd hon yn cynnig:
- Gweithio hybrid
- Amser hyblyg
- Cynllun adleoli efo taliad hyd at £8,000 i gefnogi’r ymgeisydd addas i adleoli i Geredigion
- Y posibilrwydd o gael mynediad at y Cynllun Tai Fforddiadwy, sy’n cynnig eiddo am bris gostyngol
- Ychwanegiad cyflog oherwydd grymoedd y farchnad (yn amodol ar adolygiad)
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth, neu os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â: Steven Elliott, Rheolwr Tîm: Steven.elliott@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.