37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n Timau Rhwydwaith Clwstwr Integredig. Mae tîm y clwstwr yn gweithio ac yn cefnogi i ddatblygu tîm o amgylch y person a'i deulu neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. Gall y bobl rydym yn eu cynorthwyo wynebu heriau cymhleth hirdymor o ran eu hiechyd corfforol, meddyliol a'u llesiant emosiynol. Mae'n gweithio gydag oedolion hŷn ac iau. Ein nod yw darparu cymorth cyfannol i'w galluogi i fyw eu bywydau fel y dymunant a sicrhau llais, dewis, annibyniaeth a rheolaeth yn eu bywydau. Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol creadigol, brwdfrydig, uchelgeisiol amser llawn yn y Rhwydweithiau Clwstwr Integredig. Mae'r timau'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol; ffisiotherapyddion; deieteg; Therapyddion Lleferydd ac Iaith; Technegwyr fferyllfa, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol a thechnegwyr amrywiol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygfeydd ac asiantaethau trydydd sector i asesu a chynorthwyo anghenion oedolion y mae cyflyrau cymhleth ac andwyol hirdymor yn effeithio arnynt yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd.
Gan ddefnyddio model gwaith sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau, mae'r timau'n cefnogi oedolion a'u gofalwyr i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau ac annog cynhwysiant ehangach mewn cymunedau lleol. O dan oruchwyliaeth a rheolaeth yr Uwch-therapydd Galwedigaethol, mae'r rôl hon yn canolbwyntio'n benodol ar sicrhau annibyniaeth fwyaf posibl unigolion sy'n derbyn cymorth gofal a reolir; a sicrhau bod lefel y gofal a gomisiynir yn gymesur â galluoedd unigolion. Yn benodol rydym am dargedu'r unigolion hynny sydd â nodau/canlyniadau ailalluogi hirdymor ac atal derbyniadau i'r ysbyty neu dderbyn i ofal hirdymor yn gynnar.
O dan reolaeth y therapydd galwedigaethol cofrestredig, byddwn yn cynorthwyo'r ymgeisydd delfrydol i ddatblygu dulliau arloesol o ran ymarfer therapi galwedigaethol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu a phartneriaid eraill yn y clwstwr ac yn defnyddio'r Model Gofal Wrth Gefn i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a chartrefi gofal fel rhan o'n rôl i sicrhau'r annibyniaeth a'r dewis mwyaf posibl. Bydd datblygiad parhaus y model gwasanaeth dynamig hwn yn ei gwneud yn ofynnol gwneud gwaith i ehangu cyfleoedd partneriaeth gyda phartneriaid statudol; y trydydd sector a chydag unigolion o'r gymuned.
Rydym yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau cymunedol, grwpiau a gwasanaethau cydnerth ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y swydd naill ai yn ein swyddfa yn y Pîl neu yng Nglan-rhyd. Byddwn yn cynnig cyfleoedd datblygu â ffocws ac ymrwymedig i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel therapydd galwedigaethol yn y Timau Rhwydwaith Integredig ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar sail ar draws y sir, gan ganolbwyntio ar osgoi gorfod mynd i'r ysbyty a strategaethau ac ymarfer annibyniaeth.
Bydd hyn yn canolbwyntio'r gwaith ar oedolion sy'n profi heriau gydag eiddilwch ac anabledd.
Bydd hyn yn cynnwys oedolion sy'n byw gyda her wybyddol.
Drwy ddefnyddio sgiliau clinigol arbenigol, gwybodaeth am optimeiddio darparu gofal a gwybodaeth uwch am therapi galwedigaethol, byddant yn cynnal asesiadau manwl sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gan sicrhau bod lefel y cymorth a gomisiynir yn gymesur i anghenion yr unigolyn.
Byddant yn cymryd cyfrifoldeb personol am eu llwyth gwaith eu hunain yn y maes arbenigol o ymarfer, ac ar yr un pryd yn darparu cymorth i dimau eraill er mwyn hyrwyddo a gweithredu'r fethodoleg comisiynu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Bydd ganddynt y gallu i hyrwyddo'r gwaith o ddarparu'r lefel uchaf o sgiliau ymarfer therapi galwedigaethol.
Bydd y therapydd galwedigaethol yn gweithio ar y cyd ag amrywiaeth eang o ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gofal Cymdeithasol Oedolion gan ddarparu cymorth, mewn perthynas â phecynnau gofal sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac sy'n seiliedig ar gryfderau lle bo angen.
Rydym yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau cymunedol, grwpiau a gwasanaethau cydnerth ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y swydd naill ai yn ein swyddfa neu yng Nglan-rhyd. Byddwn yn cynnig cyfleoedd datblygu â ffocws ac ymrwymedig i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Rydym yn annog sgwrs anffurfiol ar ymweliad cyn y cyfweliad.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Jonathan Hopkins, Therapydd Galwedigaethol Ymgynghorol drwy anfon neges e-bost at jonathan.hopkins1@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 31 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person