37 awr yr wythnos
Croesewir cyfleoedd secondiad 12 mis ar gyfer y swydd wag hon.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) ymuno â Gwasanaeth AMHP Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a leolir o fewn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Oedolion. A chithau'n Uwch-gydlynydd Iechyd Meddwl, byddwch yn gweithio yn y gwasanaeth AMHP i gydlynu swyddogaeth AMHP yn ystod y dydd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd disgwyl hefyd i’r Uwch-gydlynydd Iechyd Meddwl gyfrannu at weithgareddau craidd eraill y Tîm Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl gan gynnwys mynd i adolygiadau adran 117 lle nad oes gweithiwr cymdeithasol wedi ei ddyrannu ac ymgymryd â swyddogaethau Goruchwyliwr Cymdeithasol ar gyfer cleifion sydd wedi eu rhyddhau'n amodol.
Bydd y rôl hon yn hyrwyddo ac yn sicrhau safonau uchel o ymarfer proffesiynol sy'n benodol i rôl yr AMHP ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Byddwch yn goruchwylio ac yn sicrhau ansawdd yr AMPH ar draws y gwasanaeth.
Byddwch yn darparu arweiniad iechyd meddwl arbenigol wrth frysbennu asesiadau'r Ddeddf Iechyd Meddwl, cynnig cyngor i gydweithwyr amlddisgyblaethol a phartneriaid yn ôl yr angen.
Byddwch yn sicrhau dewis a rheolaeth i unigolion ac yn rhoi'r person wrth wraidd ei ofal. Byddwch yn sicrhau bod llais a dewis y person yn cael eu clywed.
Mynd ati i hyrwyddo ein ‘Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau-Gweithio i Gyflawni Canlyniadau’.
Bydd ymgeiswyr yn meddu ar statws Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP).
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch y Rheolwr Tîm Emma-Jayne Roche ar 07891330977 neu anfonwch neges e-bost at emma.roche@bridgend.gov.uk.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 07 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 10 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person