Am Y Gwasanaeth
Mae Gofal Cartref y Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) yn rhan o Wasanaeth Byw'n Annibynnol (GBA) a Gofal Cymunedol Cyngor Caerdydd ac yn gweithio mewn partneriaeth ag oedolion sy'n agored i niwed i'w cefnogi i fyw'n annibynnol gartref ac i’w cadw mewn cysylltiad â'u cymunedau.
Mae’r TAC yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Gyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n ceisio cefnogi oedolion, drwy therapi a/neu ofal cartref, i adfer neu gynnal eu gallu i fyw'n annibynnol gartref. Mae’r gwasanaeth yn darparu gofal ailalluogi gyda’r nod o annog a chefnogi pobl i ddysgu neu ail-ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd, yn dilyn cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty.
Am Y Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm Gofal Cartref TAC Caerdydd.
Byddwch yn gweithio fel uwch ofalwr, gan gefnogi achosion mwy cymhleth, gan weithio mewn partneriaeth â'r oedolion rydym yn eu cefnogi i gynyddu eu hannibyniaeth gartref. Bydd hyn yn cynnwys darparu gofal a’u cefnogi i ddysgu neu ail-ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer byw'n annibynnol bob dydd, yn dilyn cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty.
Byddwch yn cefnogi, yn gweithredu fel rheolwr llinell ac yn mentora carfan o Weithwyr Gofal Ailalluogi yn unol â'r holl ddeddfwriaeth gan gynnwys Deddf Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2014, RISCA 2016 a holl ddyletswyddau statudol, polisïau a gweithdrefnau Cyngor Caerdydd.
Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig buddion gwych i staff, gan gynnwys:
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
- Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu rhagorol
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rhaid i chi fod yn berson deinamig sy'n angerddol am hyrwyddo annibyniaeth dinasyddion.
Byddwch yn gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
Bydd gennych brofiad sylweddol o ddefnyddio gwahanol systemau TG, gyda'r gallu i weithio dan bwysau i sicrhau bod y tîm prysur hwn yn rhedeg yn ddidrafferth. Mae cywirdeb a rhoi sylw i fanylion yn bwysig iawn i'r swydd hon.
Bydd gennych y gallu i ddeall y materion mewn perthynas â’r gyfarwyddiaeth ynghyd â phrofiad o oruchwylio staff o ddydd i ddydd.
Bydd gennych ymrwymiad i weithio mewn ffordd ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, gan ddarparu'r cymorth sydd ei angen i alluogi defnyddwyr y gwasanaeth i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Addysg hyd at NVQ/HSC Lefel 3 (neu gyfatebol) neu’n uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Byddwch wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd dros dro yw hon tan 30 Tachwedd 2027
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio penwythnosau ac yn ystod y nos.
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog enwebedig ar raddfa heb fod yn is na OM2 neu'r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff mewn ysgolion all gymeradwyo ceisiadau.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Nicola Rees (nicrees@cardiff.gov.uk).
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau