Uwch-swyddog Gofal Preswyl i Blant
Lleoliad
-
Sir Gaerfyrddin
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £38,245 - £43,051 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trawsnewid ein gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad mawr mewn I cartrefi plant newydd. Ein nod yw cefnogi ac i meithrin plant i aros yn eu cymunedau a ffynnu.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r rheolwr yn un o'n cartrefi newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig a all weithio ar y cyd ac arwain ac ysgogi cartref therapiwtig, sy'n seiliedig ar drawma ac ymlyniad sydd newydd ei ddatblygu ar gyfer plant 11-17 oed.
Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio darparu model therapiwtig o ofal, gan sicrhau bod y cartref yn cael ei gefnogi gan staff profiadol a medrus iawn sy'n gwrando ar blant, gan ofalu amdanynt.
Rydym yn cynnig cyfleoedd sefydlu rhagorol a hyfforddiant parhaus, gan gynnwys eich cefnogi i ennill cymwysterau pellach. Byddwch yn rhan o wasanaeth preswyl sefydledig ac adran sy'n cynnig goruchwyliaeth a chyfleoedd rheolaidd ar gyfer datblygu pellach.
Ein hethos yw darparu meithrin, anogaeth, gofal a chymorth i blant sy'n hyrwyddo cyfleoedd iddynt feithrin perthnasoedd iach a chadarnhaol. Fel arweinydd yn y gwasanaeth hwn, cewch gyfle unigryw i gael effaith fawr ar fywydau'r plant rydym yn eu cefnogi.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae'n amodol ar Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd boddhaol.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â
Nicola McGrane, nmcgrane@carmarthenshire.gov.uk
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein