37 awr yr wythnos
Tymor Penodol hyd at Fawrth 2027
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sydd ag angerdd am sicrhau bod anghenion plant, pobl ifanc a'u teulu'n cael eu diwallu ar gam cynnar gan atal materion rhag gwaethygu i'r pwynt lle mae angen gwasanaethau statudol.
Bydd eich profiad fel gweithiwr proffesiynol yn ymwneud ag addysg, gofal cymdeithasol neu'r sector gwirfoddol yn eich galluogi i weithio'n agos i gynorthwyo'r gwaith o reoli a datblygu'r ddarpariaeth drws blaen Cymorth Cynnar wrth gynnal llwyth achosion bach, sy'n arwain at well canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Byddwch hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o staff ar draws iechyd, yr heddlu, addysg a gofal cymdeithasol i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi'u nodi fel rhai y mae angen Cymorth Cynnar arnynt.
Os ydych yn meddu ar y wybodaeth broffesiynol angenrheidiol wedi'i hategu gan brofiad, edrychwn ymlaen at glywed gennych. Yn gyfnewid, gallwn gynnig cyfle i chi weithredu newid mewn amgylchedd cefnogol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch Amy Gurdin (Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Cynnar) neu Lisa Sheppard (Dirprwy Reolwr Tîm) ar 01656 642651.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 16 Medi 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Medi 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 28 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person