Rydyn ni'n recriwtio Uwch Umarferydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Tredomen
Tîm: 16 plws
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £42,839- £46,142 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £INSERT y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.
Fel Uwch Ymarferydd yn y gwasanaeth 16 plws, byddwch chi’n darparu arweinyddiaeth a chymorth i dîm ymroddedig sy'n gweithio gyda phlant mewn gofal a phobl sy'n gadael gofal.
Byddwch chi’n rheoli achosion cymhleth a’u goruchwylio nhw, yn arwain y gwaith o ddiogelu cyd-destunol a rheoli risg, yn darparu mentora a goruchwyliaeth fyfyriol i gydweithwyr, ac yn dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Tîm yn ei absenoldeb.
Gan weithio mewn partneriaeth â phobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol aml-asiantaeth, byddwch chi’n ysgogi ymarfer o ansawdd uchel, hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol a sicrhau cyflawni cyfrifoldebau statudol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar ddatblygu gwasanaethau a chynorthwyo pobl ifanc mewn gofal a phobl sy’n gadael gofal.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol a rheoliadau statudol, ymchwil ac ymarfer mewn perthynas â'r maes gwasanaeth perthnasol.
- Profiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol – gwaith maes.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Williams ar 07971781534 neu ebost WILLIK19@CAERPHILLY.GOV.UK / Teriann Davies ar 02920 849820 neu ebost DAVIETA1@CAERPHILLY.GOV.UK
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.