Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1012
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Cymorth Busnes Is-adrannol
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Caerfyrddin
Gradd: Gradd E
Cyflog: £25,584 - £28,624
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £13.26 - £14.84
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm Mae swydd wag wedi codi ar gyfer Uwch Weinyddwr Gofal Cymdeithasol sy'n cefnogi Tîm Diogelu Oedolion yr Awdurdod.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi cyflawni cyfrifoldebau statudol ac anstatudol yn effeithiol sy'n ymwneud â diogelu oedolion, a bydd yn cydlynu gweithgaredd tîm gweinyddol bach o ddydd i ddydd.
Byddai'r swydd barhaol hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â sgiliau sefydliadol rhagorol mewn swyddfa ac sydd â dull hyblyg ac addasadwy.
Mae dealltwriaeth dda o'r ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol a diogelu oedolion yn ddymunol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster gweinyddol perthnasol (o leiaf QCF Lefel 3 neu gyfwerth) a naill ai fod â chymhwyster rheoli (e.e. ILM Lefel 3/NVQ Lefel 3 neu gyfwerth) neu fod yn barod i weithio tuag at hyn.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Kerry Halpin
Tel: 01267 228837
E-bost: KHalpin@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 015056.pdf - 182KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 07/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.