Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Manon Fon Owen ar 03000840967 neu drwy e-bost ManonFonOwen@gwynedd.llyw.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau ar 07/10/2026.
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 05/10/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
Yn berson sy’n gallu ysbrydoli eraill.
Yn berson sy’n gallu cyfathrebu’n naturiol gyda phobl ifanc, teuluoedd, cydweithwyr a gweithwyr o asiantaethau eraill.
Yn berson sensitif a hyblyg.
Yn berson hyderus a diplomataidd.
Y gallu i weithio mewn modd gwrth-ormesol.
Yn hyblyg i weithio oriau anghymdeithasol.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster cydnabyddedig gofal plant e.e NVQ/QCF Lefel 3 Gofal Iechyd a Chymdeithasol – Llwybr Gofal Plant neu yn fodlon ennill y cymhwyster o fewn chwe mis o fod yn y swydd
Dymunol
Unrhyw gymhwyster perthnasol arall yn y maes Anabledd neu Ofal Cymdeithasol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio hefo plant anabl neu plant sy’n wael.
Profiad o gynllunio a threfnu gwaith yn strwythuredig ac yn effeithiol.
Profiad o drefnu digwyddiadau neu weithgareddau gan gynnwys nifer o wahanol asiantaethau.
Profiad o fod wedi cefnogi cydweithwyr yn y man gwaith.
Dymunol
Profiad o reoli staff.
Profiad o ddarparu adroddiadau ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Tystiolaeth o allu gweithio fel aelod o dîm a gydag eraill.
Tystiolaeth o allu cyfathrebu i safon dda, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Tystiolaeth o allu rheoli a blaenoriaethu gwaith a gweithredu’n effeithiol dan bwysau.
Y gallu i yrru, a gyda thrwydded yrru gyfredol.
Gwybodaeth am anghenion plant anabl.
Tystiolaeth o allu dehongli a chofnodi digwyddiadau yn gywir a chlir.
Tystiolaeth o allu gweithio dan gyfarwyddyd a derbyn adborth.
Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at drafodaethau a chyfarfodydd.
Tystiolaeth o allu dyfeisio a datblygu rhaglenni gwaith a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc gael y gwasanaeth cefnogol gorau bosib.
Dymunol
Y gallu cyflwyno gwybodaeth yn hyderus i gynilleidfaoedd amrywiol.
Gwybodaeth am ddulliau o ddelio ag ymddygiad heriol.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Pwrpas y Swydd.