Rydyn ni'n recriwtio Uwch Weithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.Oriau gwaith: 37 oriau (08:30 – 17:00 Dydd Llun – Dydd Iau, 08:30 – 16:30 Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dewis ei leoliad naill ai yng Nghaerffili neu Rymni, ond bydd disgwyl iddo deithio i'r ddau dîm a'u cynorthwyo.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Iechyd Meddwl ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £40,221 - £43,421 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £2,863 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.Ydych chi'n Uwch Ymarferydd/Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy profiadol sy'n awyddus i ddatblygu'ch gyrfa ym maes rheoli? Os felly, byddem ni'n croesawu cais gennych chi i ymuno â'n dau Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol sefydledig a chefnogol sy'n cwmpasu Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfan.
Bydd y rôl werth chweil hon yn cynnwys goruchwylio staff, arwain dysgu a datblygu a sicrhau ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol yn y tîm, cynorthwyo Rheolwyr Tîm i reoli a blaenoriaethu atgyfeiriadau, gweithio ar y cyd â phartneriaid ym maes iechyd a phartneriaid ehangach, e.e. yr Heddlu, gwasanaethau carchar. Byddwch chi'n sicrhau gwneud penderfyniadau amddiffynadwy ochr yn ochr â galluogi risg, rheoli llwyth achosion cymhleth bach yn ôl yr angen, ac ymgymryd â'r rôl Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.
Bydd gennych chi fynediad at oruchwylio rheolaidd, sy'n eich grymuso chi i lunio barn broffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a bydd gennych chi rwydwaith o gymorth i bontio i'r rôl gyffrous hon. Byddwch chi'n cael y rhyddid i ymarfer mewn ffordd sydd wir yn seiliedig ar gryfderau sy'n cydnabod pwysigrwydd atal.
Byddwch chi'n cynnal eich cofrestriad proffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn ymrwymedig i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a herio anghydraddoldeb a gwahaniaethu o bob math.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol a'r Dyfarniad Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy
- Gwybodaeth ymarferol ragorol am yr holl fframweithiau deddfwriaethol allweddol ar gyfer Iechyd Meddwl, gan gynnwys y Ddeddf Iechyd Meddwl, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)
- Profiad o ymarfer Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Julie O'Brien ar 02920 855020,
obriej2@caerphilly.gov.uk neu Lee Moule ar 01685 846444,
moulel1@caerphilly.gov.uk .
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 25 ain Ebrill 2024 Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.