Bydd taliad atodol ar sail y farchnad yn berthnasol i’r swydd hon – i’w drafod yn ystod y cyfweliad
Am y rôl:
Fel Uwch Weithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Gofal Drwodd (0-14), byddwch yn rheoli llwyth achosion cymhleth o blant sy'n derbyn gofal, gan sicrhau eu bod yn derbyn cymorth, gofal a chynllunio parhaol o ansawdd uchel. Gan weithio o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a fframwaith Arwyddion
Diogelwch, byddwch yn hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar gryfderau, yn cefnogi cydweithwyr trwy rannu gwybodaeth ac arbenigedd, ac yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid amlasiantaeth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd.
Amdanoch chi:
Byddwch yn:
• Meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol cydnabyddedig a chofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
• Bod yn ymarferydd gwaith cymdeithasol statudol profiadol gyda gwybodaeth gref am blant sy'n derbyn gofal, cynllunio gofal a chynllunio parhaol.
• Bod yn angerddol dros sicrhau bod llais y plentyn wrth wraidd pob asesiad, cynllunio a gwneud penderfyniadau.
• Meddu ar brofiad o ymgymryd â gwaith llys a pharatoi asesiadau, cynlluniau gofal ac adroddiadau o ansawdd uchel.
• Dangos sgiliau cyfathrebu a meithrin perthnasoedd rhagorol gyda phlant, teuluoedd, gofalwyr ac asiantaethau partner.
• Bod yn hyderus yn cefnogi ac yn arwain cydweithwyr, rhannu arfer gorau a chyfrannu at ddiwylliant tîm cadarnhaol a myfyriol.
Eich dyletswyddau:
Byddwch yn:
• Cynnal llwyth achosion o Blant sy'n Derbyn Gofalu, gan gymhwyso egwyddorion
Arwyddion Diogelwch i hyrwyddo diogelwch, sefydlogrwydd a pharhad amserol.
• Cwblhau asesiadau, cynlluniau gofal, adroddiadau a datganiadau llys o ansawdd uchel i ddatblygu cynlluniau ar gyfer plant.
• Ymgymryd â gwaith uniongyrchol gyda phlant, teuluoedd a gofalwyr i sicrhau bod eu barn a'u profiadau'n llywio cynllunio a gwneud penderfyniadau.
• Gweithio ar y cyd ag iechyd, addysg, CAMHS, yr heddlu, eiriolwyr ac
asiantaethau partner eraill i ddatblygu rhwydweithiau cymorth a diogelwch effeithiol.
• Cyfrannu at ddatblygiad cydweithwyr drwy hyfforddi, mentora a rhannu arfer gorau.
• Cefnogi'r Rheolwr Tîm i gynnal safonau uchel o ran ymarfer, perfformiad a chanlyniadau i blant.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â
recruitment@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS