SWYDD FEWNOL. Mae’r swydd yma ar gael dim ond i gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) a weather asiantaeth sy’n gweithio i CBST ar hyn o bryd.
Ydych chi'n barod i gael effaith gadarnhaol ar blant a theuluoedd? Fel Uwch Weithiwr Cymdeithasol yn ein Tîm Amddiffyn Plant / Gwaith Llys, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth ddiogelu plant a chefnogi eu lles. Bydd eich sgiliau a'ch gallu fel arweinydd yn helpu i lunio canlyniadau gwell, gan weithio gyda chydweithwyr ymroddgar i gyflawni safonau gofal uchel.
Ymunwch â ni i hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar gryfder, ac ystyriol o drawma i rymuso plant a theuluoedd. Byddwch yn cydweithio'n agos â theuluoedd, cymunedau a gweithwyr proffesiynol, gan gefnogi gwelliannau parhaol a hyrwyddo ailuno pan fydd hynny’n ddiogel.
Mae'r rôl hon yn unigryw yn ei ffocws ar waith llys cymhleth, asesu a rheoli risg, a gwaith uniongyrchol gyda theuluoedd mewn amgylchiadau heriol. Byddwch yn ymdrin â llwyth achosion amrywiol, mentora staff, ac yn cynrychioli'r tîm mewn cyfarfodydd allweddol, gan ddylanwadu ar benderfyniadau ar gyfer plant 0-15 oed.
Os ydych chi'n ymarferydd profiadol sy'n ymrwymedig i les plant ac yn barod i ysgogi eraill, byddem wrth ein bodd pe byddech yn ymuno â'n tîm cefnogol. Gwnewch i'r cam nesaf yn eich gyrfa gyfrif, a'n helpu ni i adeiladu dyfodol mwy disglair - gwnewch gais heddiw!
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Katie Baker 01495 761647
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.