Caerphilly County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Lleoliad
Caerphilly
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£33,024 - £35,745 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Residential Child Care Senior Care Worker
Disgrifiad o'r swydd
Rydyn ni'n recriwtio Uwch Weithiwr Gofal Preswyl i Blant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 oriau Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau Preswyl ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £33,024 - £35,745 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc sy'n agored i niwed? Oes gennych chi o leiaf dwy flynedd o brofiad yn gweithio gydag ymddygiadau heriol mewn lleoliad preswyl ac yn edrych i wneud gwahaniaeth drwy ddull therapiwtig? Os felly, gallai swydd Uwch Weithiwr Gofal Preswyl i Blant fod yn addas i chi.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn awyddus i recriwtio Uwch Weithiwr Gofal Preswyl i Blant i ymuno ag un o'n cartrefi preswyl i blant sy'n ehangu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn llawn cymhelliant sy'n brofiadol, yn fedrus ac yn wybodus mewn Gofal Preswyl i Blant ac sy'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth i fywydau'r plant hyn sy’n agored i niwed.
Mae gweithio i Gyngor Caerffili yn rhoi llawer o foddhad ac rydyn ni'n darparu system wych o gymorth i'n gweithwyr ac, yn gyfnewid am hyn, rydyn ni’n disgwyl gofal a phroffesiynoldeb o safon uchel. Rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda thîm MyST Caerffili sydd â'r prif ddiben o wella lles seicolegol pobl ifanc yn ogystal â'u perthnasoedd â'u teulu biolegol, eu hymlyniadau ag oedolion diogel, lleihau amhariadau ar leoliadau ac, yn enwedig, lleihau'r risg o leoliadau y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. Gyda’n gilydd, rydyn ni'n mynd ati’n rhagweithiol i ddarparu gofal 24/7 i helpu’r bobl ifanc hyn i annog eu datblygiad cymdeithasol, corfforol, emosiynol a moesol fel y gallan nhw gyrraedd eu llawn botensial.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
1. NVQ 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifanc, neu NVQ 4 mewn Gofal, neu Rhagflaenydd Diploma QCF Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc 2. Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o sut mae trawma yn gallu effeithio ar blentyn ac ymddygiadau dilynol. 3. Trwydded yrru llawn Categori B (Ceir) y DU a’r defnydd o gerbyd modur wedi’i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i gynnal ymweliadau cartref, mynd i gyfarfodydd ac ati.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Williams ar 01443 811498 neu ebost: willik19@caerphilly.gov.uk
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr