Math o gontract: Parhaol / Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol o fewn y Fwrdeistref.
Mae Timau Ardal Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am Uwch Ymarferwyr llawn amser yn Tîmau Dwyrain Caerffili, Bargoed a'r Rhisga.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £40,221 - £43,421, gydag ychwanegiad blynyddol o £3,441 ychwanegol i'r farchnad, i'w dalu mewn 12 rhandaliad ochr yn ochr â'r cyflog, a chynnig mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu.Rydyn ni'n awyddus i benodi ymarferwyr dynamig, profiadol a brwdfrydig i ddod yn rhan o'n timau blaengar a chreadigol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dal llwyth achosion mwy cymhleth, yn gallu cynnig cymorth, mentora a goruchwyliaeth i aelodau'r tîm, monitro perfformiad y tîm, cynorthwyo'r Rheolwr Tîm a dirprwyo pan fo angen.
Mae'r timau'n gwneud gwaith asesu a chynllunio o ansawdd uchel ar gyfer plant a'u teuluoedd sydd angen ymyrraeth barhaus gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r timau'n ymdrin â gwaith tymor byr a thymor hir, gan gynnwys plant sydd angen gofal a chymorth, diogelu, plant sy'n derbyn gofal a gwaith llys.
Os oes gennych chi'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd heriol ond gwerth chweil, rydyn ni am glywed gennych chi.
Ydych chi'n effeithiol wrth feithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol, gyda sgiliau cyfathrebu a TG da? Oes gennych chi angerdd ac ymrwymiad gwirioneddol i wella canlyniadau ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd? Ydych chi eisiau cydweithio er mwyn hyrwyddo ‘beth sy'n bwysig’ gyda phlant a'u teuluoedd? Ydy hyn yn swnio fel y swydd iawn i chi?
Os felly, byddwn ni'n rhoi'r canlynol i chi: - Rhaglen sefydlu gynhwysfawr.
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Model asesu risg wedi'i sefydlu.
- Penderfyniadau amserol sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol.
- Uwch Ymarferwyr eraill a Rheolwr Tîm cefnogol a phrofiadol.
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan yr Uwch Dîm Rheoli.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd.
- Mae'n ofynnol i Weithwyr Cymdeithasol (os ydynt wedi cymhwyso ar ôl 1af Ebrill 2016) gwblhau'r Rhaglen Cyfnerthu Ymarfer o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer.
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu'r rheoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
- Trwydded yrru llawn DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref i fynychu cyfarfodydd.
- Lefel uwch o sgiliau gwaith cymdeithasol, arbenigedd o fewn amddiffyn plant a gwaith llys a gallu hyrwyddo a datblygu safonau ymarfer da yn bersonol ac o fewn y tîm.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carol Davies, Rheolwr Gwasanaeth ar 01443 86475 neu ebost:
[email protected] Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email protected] am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith.
Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,441 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.