Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Ty Tredomen
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle newydd a chyffrous ar gyfer Uwch Ymarferwyr yn ein Tîm Maethu Cymru/Gwasanaethau i Blant.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £40,221 - £43,421 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Bydd y swydd yn rhan o'n tîm cyfeillgar, sefydledig, prysur a phroffesiynol. Os oes gennych chi'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd gwerth chweil, rydyn ni am glywed gennych chi.
Yma, byddwch chi'n helpu a chynorthwyo'r Rheolwr Tîm gyda mentora a darparu goruchwyliaeth ffurfiol i aelodau'r tîm. Byddwch chi'n cynorthwyo staff eraill gyda'r gwaith o ddatblygu a hwyluso sesiynau gwaith grŵp a bydd gofyn i chi gyfrannu at ddatblygiadau gwasanaeth.
Bydd angen sgiliau asesu a dadansoddi rhagorol arnoch chi a'r gallu i ymgysylltu a chyfathrebu'n effeithiol â Gofalwyr Maeth, eu teuluoedd ac, wrth gwrs, y plant sy'n derbyn gofal. Gan ganolbwyntio ar les a diogelwch plant, byddwch chi'n gallu cynorthwyo ac arwain Gofalwyr Maeth i adeiladu ar eu sgiliau cyfannol yn ogystal ag ymrwymiad i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae’r tîm hefyd yn gyfrifol am recriwtio, asesu, cynorthwyo, goruchwylio ac adolygu gofalwyr maeth cyffredinol, ochr yn ochr â chwblhau Asesiadau Personau Cysylltiedig o aelodau’r teulu/personau cysylltiedig ar gyfer plentyn na all, neu o bosibl na fydd yn gallu aros gyda’i deulu biolegol.
Mae dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Tîm Maethu wedi cael eu gwahanu. Mae hanner y tîm yn gyfrifol am gynorthwyo, goruchwylio ac adolygu gofalwyr maeth presennol a'r rhai sydd newydd cael eu cymeradwyo. Mae hanner arall y tîm yn gyfrifol am recriwtio ac asesu gofalwyr maeth cyffredinol ochr yn ochr â chwblhau Asesiadau Personau Cysylltiedig.
Mae Maethu Cymru Caerffili wedi ail-lansio eu gwefan ac wedi cychwyn ar ymgyrch recriwtio Gofalwyr Maeth Cyffredinol.
Mae pob cydweithiwr newydd yn cael cyfle i ymdrin â phob agwedd ar y gwaith er mwyn datblygu eu sgiliau a'u dealltwriaeth o'r Gwasanaeth Maethu a'r Rheoliadau a'r safonau Maethu sy'n ein harwain. Byddwch chi hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus y Gwasanaeth Maethu trwy gymryd rhan yn arolygiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru a datblygu/gweithredu mentrau arfer da.
Byddwch chi'n fedrus wrth ddatblygu a chynnal gwaith amlasiantaeth effeithiol a byddwch chi'n cydweithio â gweithwyr proffesiynol ym mhob disgyblaeth. Gyda chylch gwaith sy'n rhychwantu asesu a chynorthwyo personau cysylltiedig, rydych chi'n sicr o gael heriau gwahanol bob dydd!
Mae gan Wasanaethau i Blant Caerffili gysylltiadau cryf â Gwasanaeth Ymlyniad Gwent, ac mae Caerffili wedi croesawu'r gwasanaeth therapiwtig, MYST, sy'n darparu cymorth dwys i'n plant sy'n derbyn gofal.
Mae gan wasanaeth Maethu Cymru Caerffili hefyd fynediad at Seicolegydd Clinigol. Cafodd y swydd hon ei datblygu i gynorthwyo gwaith y Tîm Maethu, gan ddarparu lefel uchel o gymorth i staff sydd â mynediad at sesiynau myfyrio rheolaidd a sesiynau ymgynghori.
Byddwch chi'n rhan o amgylchedd hynod gefnogol a bydd gennych chi fynediad da at hyfforddiant a datblygiad. A yw hyn yn swnio fel swydd addas i chi? Os felly, byddwn ni'n darparu'r canlynol:
- Rhaglen sefydlu gynhwysfawr
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus
- Model asesu risg wedi'i sefydlu
- Penderfyniadau amserol ar sail tystiolaeth
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol
- Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan yr Uwch Dîm Rheoli
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Ag o leiaf 2 flynedd o brofiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant a phobl ifanc
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
- Sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carla Perry ar 07789371781 neu ebost
[email protected] Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 10 fed Gorffennaf 2024 Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email protected] am ragor o wybodaeth
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.