Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Ty Tredomen
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau Plant ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £40,221 - £43,421 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Fel aelod o’r tîm 16+, byddwch chi'n darparu cymorth i bobl ifanc wrth iddyn nhw lywio'u taith i fod yn oedolion a magu hyder.
Yn y rôl hon byddwch chi'n darparu lefel uwch o sgiliau ac arbenigedd gwaith cymdeithasol o fewn y tîm er mwyn datblygu a chynnal safonau ymarfer ac i ddirprwyo ar ran y Rheolwr Tîm ar achlysuron penodol.
Gall hyn gynnwys goruchwyliaeth uniongyrchol o’r Gweithwyr Cymdeithasol, Myfyrwyr, Gwirfoddolwyr a Gweithwyr Cymorth. Cynorthwyo'r Rheolwr Tîm wrth barhau i ddatblygu gwasanaeth o ansawdd uchel.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd.
- Gwybodaeth gyfredol o ddeddfwriaeth gyfredol a rheoliadau statudol, ymchwil ac ymarfer mewn perthynas â'r maes gwasanaeth perthnasol.
- Trwydded yrru llawn DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref i fynychu cyfarfodydd.
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu'r rheoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Paul Cryer ar 01495 233244 neu ebost: cryerp@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.