Rydyn ni'n recriwtio 2 Uwch Ymarferydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 awr Dydd Llun – Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Rhymni/Adeilad yr Hen Ysgol, Mill Road, Caerffili
Tîm: Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £42,839 - £46,142 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £2,995 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.
Mae Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol y Gogledd a'r De yn awyddus i recriwtio Uwch Ymarferydd parhaol, amser llawn. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth 18 oed a hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl. Mae'r tîm yn amlddisgyblaethol, dynamig a blaengar a bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymarfer yn unol â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a'r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau asesu a rheoli gofal.
Bydd angen i chi fod â dealltwriaeth dda o ddeddfwriaethau a pholisïau cyfredol. Bydd gofyn i chi hefyd weithio'n agos â gofalwyr, gweithwyr proffesiynol eraill ac aelodau o'r tîm neu ar eich liwt eich hun. Bydd gennych chi rôl amrywiol a'r gallu i ddelio â sefyllfaoedd argyfwng a bydd disgwyl i chi hwyluso rhyddhau defnyddwyr y gwasanaeth yn ddiogel o'r ysbyty i'r gymuned. Bydd gofyn i chi gynorthwyo a diogelu defnyddwyr y gwasanaeth sy'n agored i niwed drwy gyfnodau anodd yn eu bywydau nhw, felly mae sgiliau cyfathrebu a threfnu effeithiol yn hanfodol.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol a Dyfarniadau Ôl-gymhwyso ar gyfer Cadarnhau Ymarfer neu Galluogi Ymarfer neu gyfatebol. Os nad oes gennych chi ddyfarniad gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy, bydd disgwyl i chi gwblhau’r hyfforddiant hwn er mwyn cyflawni'r rôl.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r gofynion cofrestru presennol yn nodi ei fod yn orfodol i gwblhau'r cymhwyster Cyfuno Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer (os i chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na allwch chi adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol nac ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
- Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol presennol ar ofal cymdeithasol a ysgogwyr cenedlaethol o fewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru (2014), Deddf Iechyd Meddwl, Galluedd Meddyliol, Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a threfniadau diogelu rhag Colli Rhyddid.
- Gwybodaeth am brosesau asesu a chynllunio gofal ar gyfer gweithio gydag oedolion a phlant sy'n agored i niwed a'u gofalwyr.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes / gwaith i deithio ledled y fwrdeistref i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rhian Llewellyn ar 01685 846444 neu ebost: llewer1@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.