Rydyn ni'n recriwtio Uwch Ymarferydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Tŷ Pawb
Tîm: Tîm Cymorth Dwys
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £44,253- £47,665 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Ymunwch â'n Tîm Cymorth Dwys a helpu trawsnewid bywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd mewn perygl o dderbyn gofal.
Fel Uwch Ymarferydd, byddwch chi’n darparu arweinyddiaeth, mentora a chymorth i ymarferwyr, gan hyrwyddo ymarfer proffesiynol o ansawdd uchel a chanlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd. Byddwch chi’n gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol medrus, gan weithio ochr yn ochr â Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymorth, Ymwelwyr Iechyd Arbenigol, a chydweithwyr Addysg a Seicoleg. Byddwch chi’n hyrwyddo ymyriadau sy'n seiliedig ar gryfderau, sy'n canolbwyntio ar atebion sy'n helpu plant i aros yn ddiogel yn eu rhwydweithiau teuluol pan fo’n bosibl.
Rydyn ni’n chwilio am ymarferydd profiadol, brwdfrydig a thosturiol sydd ag angerdd dros gyflawni canlyniadau cadarnhaol, cynorthwyo datblygiad staff ac arwain ymarfer o ansawdd uchel gyda phlant a theuluoedd.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Gradd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Profiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol – gwaith maes.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â contact Karen Singler ar 01495233261 neu ebost singlk@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae penodiad i'r swydd hon yn amodol ar yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a pharhau i fod wedi’i gofrestru fel Gweithiwr Gofal Cymdeithasol yn unol â'r gofynion rheoleiddiol perthnasol.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.