Math o gontract: Parhaol/Amser Llawn
Lleoliad: Swyddfa- Ffordd y Felin, Caerffili
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol De.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £40,221 - £43,421 ( gyda £2,863 ychwanegiad y farchnad ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ) . Mae cyfle cyffrous ar gael yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o fewn Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol y De i recriwtio Uwch Ymarferydd amser llawn. Mae'r Tîm wedi'i leoli yn Mill Road, Caerffili ac wedi'i gyd-leoli â chydweithwyr iechyd sy'n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth 18 oed a hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl.
Rydyn ni'n chwilio am staff sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd heriol ond gwerth chweil.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol a Dyfarniadau Ôl-gymhwyso ar gyfer Cadarnhau Ymarfer a Galluogi Ymarfer neu gymhwyster cyfatebol. Os nad oes gennych chi ddyfarniad Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, bydd disgwyl i chi gwblhau'r hyfforddiant hwn, a fydd wedi'i ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, er mwyn cyflawni'r rôl (wedi cyflawni'r hyfforddiant hwn yn llwyddiannus, byddwch chi'n cael taliad atodol ar sail y farchnad o £2,863 y flwyddyn).
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymarfer yn unol â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a Chod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol er mwyn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol yn effeithlon. Bydd dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a pholisïau cyfredol yng Nghymru yn hanfodol.
Bydd deiliad y swydd yn cynnal asesiadau, adolygiadau ac yn cyfrannu at y rota dyletswyddau yn y tîm. Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais fod â dealltwriaeth dda o'r meini prawf cymhwystra a’r egwyddorion sydd wedi'u gosod yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd y swydd yn cynnwys gweithio gydag unigolion i'w helpu nhw i ddod o hyd i atebion priodol ar adegau anodd, yn ogystal ag yn y tymor hir. Bydd hefyd yn golygu diogelu pobl rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Pan fydd angen ymyrraeth, bydd disgwyl i chi ddarparu ymateb cymesur ac amserol i gynorthwyo unigolion a'u gofalwyr.
Bydd prif dasgau'r rôl yn cynnwys rheoli llwyth achosion cymhleth, hwyluso lleoliadau myfyrwyr a chyfrannu at gynnal safonau ymarfer uchel yn ogystal â datblygiad tîm.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Diploma / Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol. Cwblhau’r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os yn gymwys ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol presennol ar ofal cymdeithasol a ysgogwyr cenedlaethol o fewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru (2014), Deddf Iechyd Meddwl, Galluedd Meddyliol, Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a threfniadau diogelu rhag Colli Rhyddid.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes / gwaith i deithio ledled y fwrdeistref i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Julie O`Brien ar 02920 855020 neu ebost:
obrienj2@caerffili.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £2,863 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol, ar ôl cwblhau'r cymhwyster gofynnol yn llwyddiannus.