Oriau gwaith: 37 Oriau/18.5 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Llawn Amser/ Rhan Amswer
Lleoliad: Ty Tredomen - Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau Plant ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £20,110 - £43,421 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,383 (Llawn Amser oriau) y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.
Mae Tîm Teuluoedd a Ffrindiau Caerffili yn chwilio am 2 Uwch Ymarferydd parhaol – 1 amser llawn ac 1 rhan-amser.
Mae'r tîm yn rheoli'r plant hynny sy'n destun Darpariaeth Gofal Plant Proffesiynol, trefniadau Maethu gan Berthnasau, Gorchmynion Goruchwylio a phlant ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig ac felly mae'n dîm sy'n darparu cymorth hirdymor i deuluoedd.
Byddwch chi'n rhan o amgylchedd tîm hynod gefnogol gyda mynediad rhagorol at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Bydd angen i chi fod â gwybodaeth am brosesau a gweithdrefnau Plant sy'n Derbyn Gofal a dealltwriaeth o brosesau llys, gan y bydd gennych chi gyfrifoldeb penderfynu a byddwch chi'n goruchwylio gweithwyr.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster blaenorol, ynghyd â chwblhau'r Rhaglen Cadarnhau Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os gwnaethoch chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol a rheoliadau statudol, ymchwil ac ymarfer mewn perthynas â'r maes gwasanaeth perthnasol.
- Profiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol – gwaith maes.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â ar Kerry Woodward a 01443 863476 neu ebost:
[email protected] Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email protected] am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.