Oriau gwaith: 37 Oriau (Dydd Llun - Dydd Iau 08:30 – 17:00 Dydd Gwener 08:30 -16:30)
Math o gontract: Parhaol/ Amser Llawn
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £40,221 - £43,421 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Timau Pobl Hŷn i recriwtio Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol llawn amser.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a’r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd heriol ond gwerth chweil.
Ydych chi'n effeithiol wrth feithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol gyda sgiliau cyfathrebu a TG da? Oes gennych chi angerdd ac ymrwymiad gwirioneddol i wella canlyniadau ar gyfer pobl hŷn a'u gofalwyr? Ydych chi eisiau cydweithio er mwyn hyrwyddo 'beth sy'n bwysig' gyda phobl hŷn a'u gofalwyr? Ydych chi eisiau cyfrannu at ddatblygiad personol aelodau eraill o'r tîm?
Mae pwyslais sylweddol ar gyflawni arferion gorau. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymarfer yn unol â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a Chod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol er mwyn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol effeithiol. Bydd dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a pholisïau cyfredol yng Nghymru yn hanfodol.
Bydd deiliad y swydd yn cynnal asesiadau, adolygiadau ac yn cyfrannu at y rota dyletswyddau yn y tîm. Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais fod â dealltwriaeth dda o ddull gofal cymdeithasol sy'n rhoi sylw i'r canlyniad ac o gymhwyso'r meini prawf egwyddorion a chymhwystra wedi'u gosod yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd y swydd yn cynnwys gweithio gydag unigolion i'w helpu nhw i ddod o hyd i atebion priodol ar adegau anodd, yn ogystal ag yn y tymor hir. Bydd hefyd yn golygu diogelu pobl rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Pan fydd angen ymyrraeth, bydd disgwyl i chi ddarparu ymateb cymesur ac amserol i gynorthwyo unigolion a'u gofalwyr.
Mae'r swydd hefyd yn cynnwys goruchwylio a mentora yn y tîm a hwyluso lleoliadau myfyrwyr. Byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus reoli achosion cymhleth a chyfrannu at gynnal safonau ymarfer uchel yn ogystal â datblygiad tîm.
Bydd ystyriaeth yn cael ei roi i ymgeiswyr sy'n gweithio tuag at y Wobr Galluogi Ymarfer.
Cysylltwch â Joanne Webb neu Beth McIntyre ar 01443 866930/01685 846481 neu
webbj@caerphilly.gov.uk mcIntb@caerphilly.gov.uk os hoffech chi ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol
- Cwblhau'r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os i chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016)
- Cymhwyster Asesydd Ymarfer/Addysgwr sydd wedi'i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru neu barodrwydd i weithio tuag ato o fewn amserlen sy'n cael ei chytuno gyda’ch rheolwr llinell ar adeg penodi
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y Deyrnas Unedig a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.