Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun - Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol/ Llawn Amser
Lleoliad: Ty Graddfa - Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Adnoddau Cymunedol ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £40,221 - £43,421 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sy'n brofiadol ym maes rhyddhau o'r ysbyty, sydd â gwybodaeth am gyfathrebu cydweithredol, sut i fod yn effeithiol wrth gynnal asesiadau integredig, y Ddeddf Galluedd Meddyliol ac ystyried Gofal Iechyd Parhaus ac ati, i ymuno â thîm Adnoddau Cymunedol Caerffili.
I lwyddo yn y rôl hon, mae'n rhaid i chi fod yn ymarferydd myfyriol sy'n gallu cynnig cymorth i aelodau eraill o'r tîm wrth weithio gydag unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol.
Dylech chi hefyd allu cynorthwyo lleoliadau i fyfyrwyr a datblygu gyrfaoedd pobl eraill yn y Tîm Adnoddau Cymunedol. Mae brwdfrydedd, hyblygrwydd ac awydd i helpu pobl i wneud yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw yn hanfodol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster blaenorol, ynghyd â chwblhau'r Rhaglen Cadarnhau Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os gwnaethoch chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer gofal cymdeithasol a'r ysgogwyr cenedlaethol o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion
- Profiad ôl-gymhwyso sylweddol mewn amgylchedd gwasanaethau cymdeithasol
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Lisa Hutton/Jo Milliken ar 07825634167/07920152573 neu ebost:
huttol@caerphilly.gov.uk millij@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.