Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos (Dydd Llun – Dydd Gwener, 7.24 oriau yr dydd)
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Swyddfa
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Timau pobl hŷn ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £41,511 - £44,711 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydyn ni'n chwilio am staff sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd heriol ond gwerth chweil.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymarfer yn unol â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a’r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol er mwyn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol effeithiol. Mae pwyslais sylweddol ar sicrhau'r arferion gorau. Bydd dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a pholisïau presennol yng Nghymru yn hanfodol.
Bydd deiliad y swydd yn cynnal asesiadau, adolygiadau a hefyd yn cyfrannu at y rota dyletswydd o fewn y tîm. Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais fod â dealltwriaeth dda o ddull gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a chymhwyso’r egwyddorion a’r meini prawf cymhwysedd wedi'u nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd y swydd yn golygu gweithio gydag unigolion i'w helpu nhw i ddarganfod atebion priodol ar adegau o anhawster, yn ogystal ag yn y tymor hir. Bydd hefyd yn golygu diogelu pobl rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Lle bydd angen ymyrraeth, bydd disgwyl i chi ddarparu ymateb cymesur ac amserol i gynorthwyo unigolion a'u gofalwyr.
Mae'r swydd hefyd yn golygu goruchwylio a mentora o fewn y tîm a hwyluso lleoliadau i fyfyrwyr.
Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sy'n gweithio tuag at Wobr Galluogi Dysgu Ymarfer.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gradd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os ydych chi wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Gallu dangos cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau a rheoliadau statudol, gan gynnwys y Cod Ymarfer a’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Joanna Webb ar 01443 866930 neu ebost: Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.