Rydym yn chwilio am uwch ymarferydd gwaith cymdeithasol creadigol a brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Lleoliadau prysur. Mae gan y Tîm Lleoliadau gylch gwaith eang, gan gynnwys recriwtio, asesu, hyfforddi a chefnogi gofalwyr maeth a gofalwyr maeth sy'n berthnasau; nodi a sicrhau ansawdd lleoliadau mewn asiantaethau maethu annibynnol a darpariaeth breswyl; asesu a chefnogi'r rhai sydd â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig; a'r Tîm Amser Teulu, gan sicrhau bod teuluoedd yn gallu treulio amser gyda'i gilydd mewn amgylchedd diogel a sicr.
Bydd y Tîm Lleoliadau yn cynnig cyfle i chi adeiladu ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol drwy ein cefnogi mewn dau faes allweddol:
Byddwch yn canolbwyntio ar ein gwaith pwysig o gefnogi'r rhai sy'n gwneud cais am Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig, a'r rhai sydd â'r gorchmynion hynny, mewn perthynas â phlant sy'n agored i'r tîm. Byddwch yn goruchwylio aelodau cymwys ac anghymwys o'r tîm i sicrhau bod adroddiadau ac adolygiadau o gynlluniau cymorth yn cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon broffesiynol uchel. Bydd cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau wrth gydlynu gwasanaethau cymorth er mwyn meithrin gwydnwch mewn lleoliadau Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig.
Bydd y rôl hefyd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau wrth oruchwylio'r Cydlynydd Amser Teulu a goruchwylio gwaith y Tîm Amser Teulu, gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn mwynhau amser teulu mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Byddwch yn cefnogi aelodau'r tîm i gofnodi'n gywir yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer asesiadau parhaus a orchmynnwyd gan y llys, ac yn sicrhau bod teuluoedd yn cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau magu plant. Bydd cyfle i chi helpu'r tîm i ddatblygu ei rôl wrth lywio'r broses gynllunio ar gyfer plant, ar y cyd â chydweithwyr o dimau a disgyblaethau eraill.
Fel uwch ymarferydd yn y Tîm Lleoliadau, cewch gyfle i gefnogi amrywiaeth eang o ddyletswyddau'r tîm, dirprwyo ar ran y rheolwr a gweithio'n agos gyda holl aelodau'r tîm i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan uwch ymarferwyr profiadol a gweithwyr cymdeithasol cymwys sy'n teimlo'n barod i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Mae'r prif gyfrifoldebau'n cynnwys rhoi arweiniad, cymorth ac arweinyddiaeth i weithwyr cymdeithasol cymwys a gweithwyr cymorth sy'n ymwneud â recriwtio, asesu, hyfforddi a chefnogi gofalwyr maeth a phersonau cysylltiedig. Byddwch yn datblygu sgiliau wrth ddarparu goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol i aelodau'r tîm o dan arweiniad Rheolwr y Tîm Lleoliadau.
Ochr yn ochr â chefnogi aelodau staff, byddwch yn gyfrifol am reoli llwyth achosion llai, yn aml yn cynnwys achosion cymhleth lle byddwch yn gyfrifol am gwblhau asesiadau o ddarpar ofalwyr a darparu cymorth wedi'i dargedu i ofalwyr.
I fod yn gymwys ar gyfer y rôl hon, rhaid i bob ymgeisydd feddu ar radd (neu gymhwyster cyfwerth) mewn Gwaith Cymdeithasol a bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae profiad sylweddol ar ôl cymhwyso ym maes gofal plant mewn tîm gwasanaethau plant statudol hefyd yn hanfodol, ac mae profiad o oruchwylio staff a/neu fyfyrwyr yn ddymunol.
Os hoffech drafod y cyfleoedd hyn yn anffurfiol, cysylltwch â Rheolwr y Tîm, Danielle Smith, ar 01495 369620.
Mae’r swydd hon wedi’I heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Cynhelir proses gynhwysfawr sgrinio cyn cyflogaeth a fydd yn cynnwys Datgeliad Manylach gyda Rhestr Wahardd Plant ac Oedolion.
Mae trwydded yrru lawn y DU a mydediad at gerbyd at ddibenion Gwaith yn ofynnol ar gyfer y rol.
I gael gwybodaeth am ailgyflogi ac ailbenodi cyn-weithwyr, cyfeiriwch at Bolisi Cyflog y Cyngor.
Amdanom ni
Ym Mlaenau Gwent, rydym yn frwd dros y gwaith a wnawn a'r effaith a gawn. Rydym yn grymuso ein staff i wneud newidiadau ystyrlon a gweithredu i wella ein gwasanaethau.
Hoffech chi ofyn cwestiwn i ni?
I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Danielle Smith (Rheolwr y Tîm) ar – 01495 369620
|
Dyddiad Cau:
|
Dydd Iau 8 Hydref2026 am hanner nos
|
|
Dyddiad y Cyfweliad:
|
I'w gadarnhau.
|