37 awr yr wythnos
Mae cyfle cyffrous i Uwch-ymarferydd sy'n mwynhau gweithio mewn gwasanaeth heriol, cyflym wedi codi ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn yn gontract cyfnod penodol 2 flynedd i gefnogi datblygu gwasanaethau, gan gynnwys cynllun newydd cyffrous i recriwtio, asesu a chefnogi gofalwyr maeth ar gyfer gwasanaeth Camu i Lawr.
Mae'r Gwasanaeth Camu i Lawr hwn yn recriwtio, yn asesu ac yn cefnogi gofalwyr maeth i ofalu am blant y mae eu cynllun gofal yn golygu camu i lawr o leoliadau preswyl i leoliadau maeth. Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu pecyn gwell o gymorth a chyfleoedd dysgu a datblygu i ofalwyr sy'n ymwneud â'r gwasanaeth camu i lawr.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cefnogi a datblygu meysydd eraill o ddatablygu gwasanaethau fel gweithredu'r Fframwaith Blwyddyn Gyntaf mewn Ymarfer/Sefydlu newydd, y fframwaith Dysgu a Datblygu ar gyfer gofalwyr maeth, datblygu'r Rhaglen Llesiant Maethu o fewn y Boblogaeth Maethu Gyffredinol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r gwasanaeth hefyd yn datblygu lleoliadau maeth Rhieni a Phlant a Gofal Cymorth ymhellach.
Mae'r Tîm Maethu yn rhan o Ranbarth Cwm Taf ac fel rhan o'n dull o recriwtio gofalwyr maeth ychwanegol mae gennym ddrws ffrynt rhanbarthol i sicrhau ymateb amserol i unrhyw ymholiadau newydd.
Rydym yn chwilio am Uwch-ymarferydd dynamig, brwdfrydig a gwybodus i gynorthwyo'r Rheolwr Tîm yn y Tîm Maethu Cyffredinol i reoli, cydlynu a datblygu'r tîm a gwasanaethau, i recriwtio, asesu, adolygu a chynorthwyo Gofalwyr Maeth Cyffredinol gan gynnwys y prosiect camu i lawr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r tîm rheoli i ddatblygu a sicrhau gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i ofalwyr maeth, plant â phrofiad o fod mewn gofal, aelwydydd maethu a rhwydweithiau cymorth yn unol â pholisïau presennol, arfer gorau, deddfwriaeth, gweithdrefnau a systemau adrodd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu ac yn ymgorffori'r Gwasanaeth Camu i Lawr ynghyd â chyfleoedd datblygu gwasanaethau eraill, yn recriwtio, asesu a bod yn gyfrifol am nifer fach o ofalwyr camu i lawr ac achosion cymhleth, darparu cymorth/goruchwyliaeth i rai aelodau o'r tîm, gan gymryd rôl arweiniol wrth ddatblygu a gweithredu meysydd dynodedig o arfer da a datblygu gwasanaethau.
Bydd y rôl yn cynnwys cydweithio ar draws yr holl dimau Plant yn yr Awdurdod Lleol, yn enwedig y Tîm Profiad o fod mewn Gofal a'r tîm 15+ sy'n cefnogi plant sy'n derbyn gofal a darparwyr allanol. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Maethu gan Berthynas a Sefydlogrwydd sy'n cynorthwyo gofalwyr maeth sy'n bersonau cysylltiedig a Gwarcheidwaid Arbennig.
Rydym yn dîm bach a chyfeillgar gyda chyfleoedd dysgu a datblygu gwych i staff wneud cynnydd o ran eu dyheadau gyrfa. Mae'r tîm yn darparu dull sy'n ystyriol o drawma o gefnogi a chadw gofalwyr maeth. Mae llesiant y tîm staff yn flaenoriaeth allweddol i'r tîm ac mae cynllun y tîm ar gyfer y flwyddyn i ddod yn canolbwyntio ar ddatblygu'r tîm a'r gwasanaethau a meithrin gwydnwch a chymorth pellach yn y gymuned faethu.
Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymgorffori'r model ymarfer Arwyddion Diogelwch, a byddai profiad a dealltwriaeth o'r model hwn yn fuddiol. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant llawn.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Fe'i lleolir mewn safle dymunol rhwng Abertawe a Chaerdydd ac mae'n ymestyn o'r cymoedd hardd i'n harfordir hyfryd – gyda mynediad hawdd i ganolfannau trefol yn ogystal â lleoliadau gwledig ac arfordirol deniadol. Gydag ysgolion ardderchog, tai fforddiadwy a gwasanaethau cyhoeddus ardderchog, mae rhywbeth at ddant pawb yma, a digon i'w wneud drwy gydol y flwyddyn i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 25 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 30 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 08 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person