37 awr yr wythnos
Mae gennym gyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa gofal cymdeithasol ymhellach a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau gorau i'n plant a'n teuluoedd.
Gan adeiladu ar ein cryfderau yn barhaus, rydym yn ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd gwobrwyol lle mae'r staff yn cael eu gwerthfawrogi.
Yn 2018, gwnaethom lansio ein MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol) ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda phartneriaid allweddol sy'n ymgorffori gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ynghyd â diogelu ein plant a'n hoedolion mwyaf agored i niwed.
Ein MASH yw'r un pwynt cyswllt i'r holl weithwyr proffesiynol a dinasyddion i godi pryderon ynghylch diogelu. Mae'r MASH yn cyd-leoli partneriaid allweddol (naill ai'n gorfforol neu'n rhithwir) er mwyn gwella'r ymateb cychwynnol i'r holl atgyfeiriadau gan gynnwys pryderon diogelu mewn perthynas â phlant ac oedolion agored i niwed. Mae ein tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn y MASH ac mae'n rhan annatod o'r model.
Byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, hyfforddiant a mentora lle y bo angen. Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr rydym yn defnyddio'r model ymarfer Arwyddion Diogelwch a rhoddir hyfforddiant llawn i'r ymgeisydd llwyddiannus.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd ffoniwch Rachel Hawkins Rheolwr Tîm MASH ar 01656 642320.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person