Am Y Gwasanaeth
Mae Teleofal yn wasanaeth 24/7 a ddarperir gan Gyngor Caerdydd i helpu pobl i fyw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r gwasanaethau'n darparu tawelwch meddwl i ddinasyddion oedrannus a bregus Caerdydd, wrth eu galluogi i fyw mor annibynnol â phosib.
Am Y Swydd
- Bydd rhaid i’r Gwarcheidwad Tai ymweld â chartref person sydd wedi tanio’r larwm i alw am gymorth gan ganolfan reoli larymau Teleofal. Byddant hefyd yn ymweld yn rheolaidd â’r cynlluniau Tai Lloches yn absenoldeb Rheolwr y Cynllun.
- Derbyn a chofnodi digwyddiadau ac apwyntiadau yn ddigidol gyda lefel uchel o gywirdeb a manylder.
- Ymweld â chartrefi’r cwsmeriaid os bydd angen sylw ar larwm diffygiol.
- Derbyn hysbysiad a manylion am alwadau larwm drwy ffôn symudol, tabled a radio dwy ffordd a gyrru i gartref y person a rhoi unrhyw gymorth ymarferol, neu gefnogaeth sydd ei angen a rhoi gwybod i'r Ganolfan Reoli o'r amgylchiadau a chamau gweithredu.
- Os, yn ystod ymweliad â chwsmer, bydd Ymatebydd Symudol yn darganfod sefyllfa o argyfwng bydd yn hysbysu’r Ganolfan Reoli ar unwaith er mwyn galw’r gwasanaeth brys priodol. Ni ddisgwylir i’r Ymatebydd Symudol ymyrryd mewn argyfwng neu fygythiad lle byddai’r ymyrraeth yn bygwth ei ddiogelwch ei hun.
- Bydd gofyn iddo gydgysylltu â gwasanaethau brys er mwyn eu cynghori ar fynediad i eiddo, perthynas agosaf, neu unrhyw wybodaeth briodol arall sydd ar gael am ddefnyddiwr y system.
- Bydd disgwyl iddo weithio ar sail shifft sefydlog yn cwmpasu cyfnod 24 awr 7 diwrnod naill ai yn ystod y dydd neu’r nos. Bydd gofyn hefyd gweithio Ddydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc.
- Delio â sefyllfaoedd sensitif a sefyllfaoedd brys yn effeithiol ac yn effeithlon gan gysylltu â chwsmeriaid eraill, asiantaethau gofal a/neu wasanaethau brys.
- Mae hon yn rôl gweithio ar eich pen eich hun, gyda’r Ymatebwyr yn gweithredu’n annibynnol ar draws ardaloedd penodedig o’r ddinas. Er eu bod fel arfer yn rhan o dîm dau berson sy’n cwmpasu ardaloedd ar wahân, mae’r rôl yn golygu gweithio ar eich pen eich hun bob amser, gan gynnwys shifftiau dydd a nos.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Derbyn ac ymateb i alwadau a adroddir i’r ganolfan gyswllt, gan gynnwys galwadau brys a galwadau blaenoriaeth gan gwsmeriaid agored i niwed a’r henoed.
- Gwrando, asesu a chydymdeimlo â sefyllfa’r cwsmer a chyfleu awydd diffuant i helpu a chefnogi.
- Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn briodol gan sicrhau eu bod nhw'n deall y camau fydd yn cael eu cymryd.
- Defnyddio offer priodol i gynorthwyo cwsmeriaid os ydynt wedi cwympo neu os oes angen cymorth arnynt.
- Sicrhau bod yr holl offer yn cael ei lanhau a'i ddefnyddio'n gywir o fewn canllawiau iechyd a diogelwch.
- Gweithio fel aelod o’r tîm ehangach gan sicrhau gwelliant parhaus o ran ymateb i newid mewn ffordd gadarnhaol.
- Gweithio gyda thechnoleg gyfredol a newydd i wella gwasanaethau cyswllt cwsmeriaid, cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu systemau (rhai â llaw a rhai technolegol).
- Gweithio fel aelod o’r tîm ehangach gan sicrhau gwelliant parhaus o ran ymateb i newid mewn ffordd gadarnhaol.
- Bod yn gyfrifol am gadw cardiau tanwydd ac offer yr Awdurdod yn ddiogel gan gwblhau taflenni log cerbydau gyrwyr a log cyflwr cerbydau.
- Mynychu sesiynau hyfforddiant, cyrsiau a chyfarfodydd tîm perthnasol yn ôl y gofyn, a derbyn hyfforddiant i gyflenwi yn absenoldeb gweithredwr y Ganolfan Reoli a Thai Lloches mewn achosion o argyfwng.
- Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae hon yn rôl rhan-amser 28 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Mae’r cyflog a hysbysebir yn seiliedig ar rôl amser llawn (37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn). Bydd y cyflog gwirioneddol yn is na’r cyflog a hysbysebir oherwydd yr oriau rhan-amser a’r wythnosau a weithir
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Huw Parry-Evans, Huw,Parry-Evans@Caerdydd.gov.uk
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau