Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Gweithio gyda phlant a’u teuluoedd yn y gymuned fel rhan o grŵp wedi’i drefnu er mwyn hyrwyddo, cryfhau a datblygu potensial rhieni / gofalwyr a phlant er mwyn atal y plant rhag dod yn blant mewn gofal a / neu ddioddef niwed sylweddol. Cynorthwyo i ofalu am blant lle mae risg uchel y bydd eu trefniadau byw yn torri i lawr (gan gynnwys lleoliadau awdurdod lleol). Cynorthwyo i ailuno plant gyda’u teuluoedd / gofalwyr eraill yn y gymuned. Bydd y Gwasanaethau Cefnogi yn cael eu rheoli o ran amser, yn ddwys, yn canolbwyntio ar ddatrysiadau ac yn cael eu hadolygu. Darparu cynlluniau gofal wedi eu hasesu naill ai ar gymarebau penodol a / neu waith grwp.
Mwy o gwybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Manylion cyswllt
Enw: Janice Burnell
Rhif ffôn: 01248750320
Cyfeiriad e-bost: JaniceBurnell@ynysmon.llyw.cymru