Ymarferydd Amser i Deuluoedd x 37 awr
Gradd 7 – £31,022 y flwyddyn
Canolfan Glyncornel, Llwynypia, Cwm Rhondda CF40 2JF
Rydyn ni'n gobeithio penodi Ymarferydd ar gyfer ein Gwasanaeth Amser i Deuluoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am roi cymorth i reolwyr wrth weithredu ein gwasanaeth yn y ddwy Ganolfan Amser i Deuluoedd. Canolfan Glyncornel, Tonypandy, CF40 2JF yw prif leoliad y swydd ond mae disgwyl i ddeiliad y swydd allu gweithredu o Ganolfan i Blant a Theuluoedd Aman, Godreaman, Aberdâr.
Byddwch chi'n rhoi cymorth i Reolwyr Amser i Deuluoedd yn eu rolau ac yn dirprwyo yn eu habsenoldeb, yn ogystal â hwyluso sesiynau amser i deuluoedd rhwng plant sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd, cynnal asesiadau risg ar gyfer sesiynau unigol, cyflenwi mewn sesiynau pan fo angen neu os ydyn nhw'n gymhleth, gwirio ac awdurdodi cofnodion a darparu cofnodion cywir i weithwyr proffesiynol.
Mae profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd yn hanfodol ac mae gwybodaeth sylfaenol am ddatblygiad plant yn allweddol er mwyn darparu cefnogaeth a chyngor priodol.
Bydd angen i chi hefyd fod â gwybodaeth sylfaenol o'r fframwaith cyfreithiol sy'n berthnasol i blant sy'n derbyn gofal. Mae profiad o weithio o fewn amgylchedd teuluol dan oruchwyliaeth yn ddymunol. Mae disgwyl bod gyda chi gymhwyster FfCCh Lefel 3 ym maes Plant a Phobl Ifainc neu'n mynd ati i ennill y cymhwyster cyn pen dwy flynedd yn y swydd yma, a bydd cymorth yn cael ei ddarparu i chi gyflawni hyn.
Am wybodaeth bellach, e-bostiwch Hayley Speicher: Hayley.j.speicher@rctcbc.gov.uk i drefnu galwad.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.