Rhif swydd LEICY100013.15 - Ymarferydd Dechrau'n Deg
Cymhwyster Lefel 3 (CCLD, CCPLD, NVQ neu debyg) yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
Nifer o swyddi ar gael ar gyfer gofal plant, crèche a chlwb ar ôl ysgol 39 wythnos pro-rata.
Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sydd â’r nod o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i wella cyfleoedd bywyd plant, gan sicrhau eu bod yn cael dechrau teg mewn bywyd. Gan fod y fenter hon yn ehangu ar draws ardaloedd Casnewydd, rydym eisiau penodi Ymarferwyr Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar.
Mae Tîm Dechrau'n Deg Casnewydd yn chwilio am Ymarferwyr brwdfrydig a dibynadwy i weithio’n rhan o dîm, dan arweiniad yr Uwch Ymarferwyr i hyrwyddo gweledigaeth a gwerthoedd rhaglen Dechrau'n Deg.
Rydym am benodi ymgeisydd sy’n:
- Ymarferydd brwdfrydig a hunan-gymhellol
- Dibynadwy a chydwybodol
- Aelod tîm rhagorol sy'n barod i ymrwymo’n llwyr i fywyd y Clwb Ar Ôl Ysgol
- Ymarferydd gofalgar sy'n rhoi lles plant wrth galon ei ymarfer.
- Gyfathrebwr rhagorol gydag aelodau o'r tîm, plant, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Gallu nodi ei anghenion hyfforddi a datblygu ei hun a chymryd rhan mewn hyfforddiant parhaus.
Mae oriau’r swydd i'w cytuno, dydd Llun - dydd Gwener dros 39 wythnos. Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl, ar sail cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd gwyliau y tu allan i'r tymor.
Bydd gan yr ymgeiswyr sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, yn ogystal ag ymrwymiad gwirioneddol i ofal a datblygiad plant ifanc iawn. Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar lythrennedd lefel 2 o leiaf, TGAU Saesneg gradd C neu uwch.
Mae cymhwyster Gofal Plant perthnasol, Lefel 3 (neu uwch), profiad o weithio gyda phlant a gwybodaeth dda am ddatblygiad plant a deddfwriaeth, polisïau gofal plant ac ymarfer Arolygiaeth Gofal Cymru yn hanfodol.
Mae disgwyl i holl staff Dechrau'n Deg fod yn hyblyg i anghenion y gwasanaeth, gan gefnogi lleoliadau ledled y ddinas, bydd hyn yn cynnwys Clwb Ar ôl Ysgol sy'n darparu cyfleoedd chwarae i blant 3 – 10 oed, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 15:00 a 18:00.
Bydd y broses recriwtio yn para diwrnod cyfan ac yn cynnwys sesiwn arsylwi a holi ac ateb.
Bydd yr arsylwi yn digwydd mewn lleoliad gofal plant a allai fod mewn lleoliad gwahanol i'r cyfweliad.
Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno cynllun gweithgaredd oed-briodol, y byddan nhw wedi’i baratoi ymlaen llaw.
Sylwer nad ydyn ni’n caniatáu i chi ddod â nodiadau i mewn i'r cyfweliad.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio, rôl y swydd a chymorth ymgeisio, ffoniwch Kate Brogan, Arweinydd Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ar kate.brogan@newport.gov.uk .
Mae’r swydd hon wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac yn amodol ar wiriad GDG manwl.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd