Ymarferydd Gofal a Chymorth wedi'u lleoli yn Nhŷ Elái
Cyflog: £39,152 y flwyddyn - GR10
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu penodi Ymarferydd Gofal a Chymorth yn rhan o'r Garfan Rheoli Gofal.
Hoffen ni sicrhau bod ein gwasanaethau yn cynorthwyo pobl i gyflawni eu potensial llawn. Mae hyn yn golygu gweithio gyda phobl, er mwyn deall beth sy'n bwysig iddyn nhw a sut mae modd i ni helpu.
Rydyn ni'n chwilio am ymarferydd brwdfrydig sydd ag agwedd gadarnhaol sy'n gallu gweithio gydag unigolion, teuluoedd a rhieni maeth yn unol â gofynion ac egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Rydyn ni'n chwilio am ymarferydd sy'n rhoi'r unigolyn wrth galon eu gwaith.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag asesiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn llunio cynlluniau gofal â defnyddwyr gwasanaeth a'u cynhalwyr er mwyn sicrhau bod gofynion o ran gofal yn cael eu bodloni, ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth. Byddwch chi'n gweithio gydag unigolion 18 oed a hŷn sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth. Byddwch chi hefyd yn ymgymryd ag ymholiadau Adran 126 yn unol â gofynion diogelu, lle byddwch chi'n darparu adborth ar y canlyniadau. Bydd gofyn i chi gydbwyso risg yn erbyn hunan-benderfyniad, ac yn cynnal hawliau'r unigolyn, gan ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
Mae’r gallu i reoli risg yn briodol yn hanfodol. Bydd gyda chi faich gwaith amrywiol a byddwch chi’n gweithio mewn amgylchedd cyflym, gan sicrhau bod asesiadau’n cael eu cwblhau yn unol ag amserlenni.
Gan weithio fel rhan o garfan, ond hefyd yn annibynnol, byddwch chi'n meddu ar sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn ogystal â bod yn hyddysg wrth ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd angen i chi fod yn drefnus, yn gryf eich cymhelliant, a gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn ogystal â bod yn greadigol ac yn ddyfeisgar a chael cred gadarn mewn rhoi'r gallu i oedolion fod yn annibynnol.
Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl yn Rhondda Cynon Taf. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant rhagorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant sy'n berthnasol i swydd ymarferydd gofal a chymorth. Rydyn ni'n cynnig goruchwyliaeth broffesiynol yn rheolaidd ac yn ogystal â hynny, bydd cyfle gyda chi i ddod yn rhan o waith goruchwylio cymheiriaid mewn grŵp.
Yn ddelfrydol bydd gyda chi brofiad blaenorol o weithio ym maes rheoli gofal neu ofal cymdeithasol o fewn Gwasanaethau i Oedolion. Bydd gyda chi wybodaeth a dealltwriaeth o weithio ym maes iechyd / gofal cymdeithasol i oedolion a byddwch chi'n gyfarwydd â holl ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth ac am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Alexandra Bayliss drwy ffonio 07735015253.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus i wirio'u haddasrwydd i weithio gydag Oedolion.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.