Ymarferydd Gofal a Chymorth Dros Dro yng Ngharfan Gofal a Chymorth Rhondda Fawr (swyddfa Tŷ Elái)
Cyflog: £40,444 y flwyddyn (Gradd 10)
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu penodi Ymarferydd Gofal a Chymorth
yn rhan o'r Gwasanaethau i Oedolion. Dyma swydd ac iddi gontract tan fis Mawrth 2028.
Hoffen ni sicrhau bod ein gwasanaethau yn cynorthwyo pobl i gyflawni eu potensial llawn. Mae hyn yn golygu gweithio gyda phobl, er mwyn deall beth sy'n bwysig iddyn nhw a sut mae modd i ni helpu.
Rydyn ni'n chwilio am ymarferydd brwdfrydig sydd ag agwedd gadarnhaol sy'n gallu gweithio gydag unigolion, teuluoedd a rhieni maeth yn unol â gofynion ac egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Rydyn ni'n chwilio am ymarferydd sy'n rhoi'r unigolyn wrth galon eu gwaith.
O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n ymgymryd ag asesiadau, llunio cynlluniau gofal â defnyddwyr gwasanaeth a'u cynhalwyr (gofalwyr) ac adolygu anghenion gofal a chymorth. Byddwch chi'n gweithio gydag unigolion sydd mewn sefyllfaoedd heriol ac anghenion cymhleth, felly mae'n hanfodol eich bod yn gallu rheoli perygl yn addas. Gan ddelio â llwyth gwaith eang, byddwch chi'n canolbwyntio ar fodel adferiad, a meddu ar y gallu i gydbwyso risg yn erbyn hunan-benderfyniad. Bydd yn ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
Gan weithio fel rhan o garfan, ond hefyd yn annibynnol, byddwch chi'n meddu ar sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn ogystal â bod yn hyddysg wrth ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd angen i chi fod yn drefnus, yn gryf eich cymhelliant, a gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn ogystal â bod yn greadigol ac yn ddyfeisgar a chael cred gadarn mewn rhoi'r gallu i oedolion fod yn annibynnol.
Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl yn RhCT. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant rhagorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant sy'n berthnasol i swydd ymarferydd gofal a chymorth. Rydyn ni'n cynnig goruchwyliaeth broffesiynol yn rheolaidd ac yn ogystal â hynny, bydd cyfle gyda chi i ddod yn rhan o waith goruchwylio cymheiriaid mewn grŵp.
Yn ddelfrydol bydd gyda chi brofiad blaenorol o weithio ym maes rheoli gofal neu ofal cymdeithasol o fewn Gwasanaethau i Oedolion. Bydd gyda chi wybodaeth a dealltwriaeth o weithio ym maes iechyd / gofal cymdeithasol i oedolion a byddwch chi'n gyfarwydd â holl ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth am y swydd neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Anna-Marie Young - Rheolwr Carfan Dros Dro - Arfer a Chyflawniad ar (01443) 444596.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person ar gyfer y swydd, ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch, bydd gwahoddiad i chi gael cyfweliad os ydych chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.