
Ymarferydd Gofal Plant Preswyl – Rhan Amser
18.5 awr yr wythnos
Gradd 7 – £16,023 y flwyddyn
Cartref Plant Cartref Mynydd, Wattstown, CF39 0PP
Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc?
Ydych chi'n unigolyn gweithgar a chydnerth sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant Preswyl, byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar sy'n darparu cartref diogel a chefnogol ar gyfer plant a phobl ifainc. Mae gwaith y cartref yn cael ei arwain gan Reolwr Cofrestredig profiadol ac uwch aelodau o staff.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod. Byddwch chi'n darparu gofal a chymorth, a bydd gofyn i chi weithio mewn modd creadigol, gan ymgymryd â gweithgareddau a gwaith uniongyrchol. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Wedi Trawma.
Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys cefnogi unigolion i weithio trwy eu profiadau unigol gan weithio tuag at wella a meithrin cydnerthedd i gyflawni nodau personol. Bydd y gwaith yma'n cefnogi asesiad o anghenion gofal a chymorth parhaus yr unigolyn er mwyn sicrhau gwaith cynllunio cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu cymorth a gofal emosiynol, corfforol a phersonol sy'n caniatâu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn, weithiau mewn sefyllfaoedd heriol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu i anghenion unigol y plant a phobl ifainc, a bod modd iddyn nhw symud ymlaen mewn modd cadarnhaol o'r lleoliad.
Er mwyn llwyddo yn y rôl yma, rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Agwedd gadarnhaol a chydnerth
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
- Cydymdeimlad ac empathi, a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
- Y gallu i feithrin perthnasoedd cryfion
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu
- Gallu i weithio'n hyblyg
Mae sifftiau'n cynnwys gwyliau'r banc a phenwythnosau ac fel arfer yn arfer cynnwys gweithio rhwng 7.30am - 3.30pm a 3pm - 11pm. Mae'r canlynol yn angenrheidiol hefyd: dyletswyddau cysgu ar y safle, a, gweithio dros nos yn achlysurol ar sail rota. Efallai bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau preswyl eraill yn achlysurol i gynorthwyo ein cartrefi eraill yn yr awdurdod lleol, er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.
Ein Cynnig i Chi...
Rydyn ni’n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol, sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys:
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
- Cerdyn gostyngiadau i staff – Cerdyn Vivup
- Mynediad at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwasanaethau Preswyl. Gwasanaethau Preswyl i Blant | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r swydd neu drefnu sgwrs anffurfiol, ffoniwch Rosaleen Walsh, (Rheolwr Cofrestredig) ar 07786523859.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.