Sylwch y bydd ein swyddfa ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr tan ddydd Llun 6 Ionawr.
Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn gallu delio ag unrhyw ymholiadau. Diolch am eich dealltwriaeth.
Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Dyddiad cau 03/01/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
Gwynedd
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Dros dro
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Cyfleusterau Crèche a Meithrinfeydd Dydd
Rôl
Practitioner
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â David Owen ar 01286 682727 neu drwy e-bostl: davidowen@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
14.11.24 Pecyn penodi plant a chefnogi teulu (2).pdf
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr Ymrwymiad i weithio i amddiffyn diogelwch, llesiant a lles plant Gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Tîm Arddangos ymrwymiad a brwdfrydedd mewn perthynas â chyflawni deilliannau positif i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bod yn ymrwymedig i ddatblygiad personol Gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn gallu adeiladu perthnasau da Gallu bod yn greadigol ac yn llawn dychymyg gyda phlant a theuluoedd Hyblygrwydd Gallu gweithio dan bwysau
DYMUNOL -
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL 5 TGAU gradd C neu uwch
DYMUNOL Cymhwyster mewn gofal plant neu ofal cymdeithasol neu Iechyd perthnasol (e.e. NVQ 3, Diploma mewn astudiaethau lles, Datblygiad Plant) Tystiolaeth o ddatblygiad personol perthnasol drwy hyfforddiant mewn swydd
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL Gallu a'r profiad o weithio'n unigol ac fel aelod o dîm. Gallu cyfathrebu'n dda. Gweithio mewn modd creadigol a phositif. Gallu gweithio dan bwysau Gallu cynnal trafodaethau anodd a heriol Profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd sy'n dangos amrediad o anghenion cymhleth (heriau iechyd meddwl, anawsterau ymddygiad, camddefnydd o gyffuriau ac alcohol, trais domestig) a dangos gallu i greu cydberthynas ac adeiladu perthnasau effeithiol. Gwybodaeth am ddiogelu, deddfwriaeth gofal plant, Gweithdrefnau Amddiffyn Plant lleol, a dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn, capasiti rhiantu a ffactorau risg ac amddiffynnol. Gallu meithrin perthnasau adlewyrchol, cefnogol yn canolbwyntio ar ganlyniadau gyda phlant a'u teuluoedd. Profiad o gynllunio gwaith mewn modd strwythuredig ac effeithlon Mynychu a chyfrannu mewn cyfarfodydd
DYMUNOL Profiad o gynnal neu gyfrannu at asesiadau, cynllunio gofal ac adolygiadau gyda chleientiaid ag anghenion cymhleth. Gwybodaeth a dealltwriaeth o amrediad o ddulliau ar sail tystiolaeth, gan gynnwys theori ymlyniad a cholled, perthynas ac ymyraethau ar sail cryfder. Profiad o roi adborth dadansoddol ar fewnbwn a chynnydd mewn achosion
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL Sgiliau TG Gwybodaeth am anghenion plant a datblygiad plentyn Dealltwriaeth ac ymrwymiad i ymarfer diragfarn ac anormesol Gallu dehongli a chofnodi digwyddiadau'n glir a chywir Trwydded yrru gyfredol, lân Gallu paratoi adroddiadau o ansawdd mewn Cymraeg a Saesneg Gallu cyfathrebu yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfrannu at ddyfeisio a gweithredu cynlluniau i fodloni anghenion plant. Gallu ffurfio a chyflwyno pecynnau cefnogaeth a grymuso creadigol, wedi'u teilwra i fodloni anghenion yr unigolyn. Tystiolaeth o ymwybyddiaeth amlasiantaethol a sut fydd gweithio mewn partneriaeth yn gwella darpariaeth y gwasanaeth ac yn cyflawni amcanion yr unigolyn. Cynnal perthnasau cefnogol gyda chydweithwyr mewn gwaith cymdeithasol ac asiantaethau allanol. Gallu ymgysylltu gyda phlant a'u teuluoedd a chynnal perthnasau. Cyfrannu at goladu gwybodaeth briodol er mwyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch pecynnau cefnogi. Deall pwrpas goruchwyliaeth. Ymwybyddiaeth o hunan-reoli proffesiynol
DYMUNOL Profiad a gwybodaeth mewn perthynas â dulliau ymyrryd megis rhiantu, rheoli ymddygiad, ffyrdd o fyw iach, ymwybyddiaeth ofalgar.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL Gwrando a Siarad - Lefel Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer • -
Prif Ddyletswyddau.
Dyletswyddau Cyffredinol • Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a'r canllawiau perthnasol sy'n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru • Gweithredu'r cod ymarfer proffesiynol • Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. • Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd gan weithiwr cymdeithasol cofrestredig neu therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau) a cheisio cyngor a chefnogaeth ar feysydd gwaith y tu hwnt i ffiniau gwaith disgwyliedig. • Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano a gweithio o fewn ffiniau'r rôl. • Cydweithio â chydweithwyr amlddisgyblaethol dan arweiniad eich rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig • Paratoi a chyflwynoadroddiadau a chofnodion o dan oruchwyliaeth y rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. • Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau. • Grymuso pobl i gael llais a'u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau eirioli. • Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill. • Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig. • Cynnal asesiad sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' i nodi beth sy'n bwysig i'r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol. • Paratoi, cynhyrchu a gweithredu cynlluniau dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig/therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau). • Nodi Oedolyn neu Blentyn sy'n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac adrodd yn briodol. • Ymgymryd â'r cymhwyster lefel 4 perthnasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau GCC a rhaglenni lefel 3 a 4 eraill yn ôl y gofyn.
Dyletswyddau Lleol • Asesu anghenion pobl ifanc sydd yn y broses o neu wedi gadael gofal, yn unol â'r gofynion statudol perthnasol. • Darparu gwasanaethau i bobl ifanc mewn gofal neu sy'n gadael gofal, ac I bobl ifanc 16 ac 17 sydd mewn angen neu ar y gofrestr amddiffyn plant • Cyflawni dyletswyddau ar y cyd megis sefydlu cynlluniau llwybr, eu monitro a'u adolygu i ateb yr anghenion. • Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau newydd ar gyfer pobl ifanc 16 a throsodd a'u teuluoedd. • Asesu a chefnogi Ceiswyr Lloches sydd wedi cael ei dyranu gan yr Swyddfa Gatref drwy'r 'NTS'
Dyletswyddau Eraill • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor. • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb. • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor. • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd. • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b. • -
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr