Am Y Gwasanaeth
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar o fewn cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. Wedi'i achredu â Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf, mae'r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel i fabanod,plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y ddinas.
Mae'r gwasanaeth yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn seiliedig ar gryfderau, ac yn gynhwysol i adnabod y gefnogaeth fwyaf priodol a fydd yn diwallu anghenion unigolion a’u teuluoedd. Mae'r timau o fewn y gwasanaeth yn cydweithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol a phartneriaid i sicrhau bod cefnogaeth ar y lefel iawn ac ar yr adeg iawn.
Am Y Swydd
Rydym yn ceisio penodi Cynghorydd Cymorth i Deuluoedd Gradd 6 rhan-amser fel rhan o drefniant rhannu swydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i fabanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd naill ai yn eu cartref neu mewn lleoliadau cymunedol. Heb y gefnogaeth y gall Cynghorydd Cymorth i Deuluoedd ei darparu, efallai y bydd angen cymorth mwy dwys ar deuluoedd neu y byddant yn cynyddu i wasanaethau diogelu statudol.
Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:
- Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.
- Cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd i'ch cefnogi yn eich gwaith.
- Rhaglen hyfforddiant eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol.
- Systemau a thechnoleg sy’n galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid.
- Cyfle i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb i fabanod, plant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr sy’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a’u lles.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi:
- Brwdfrydedd a chymhelliant
- Gwydnwch a gallu ymateb yn gadarnhaol dan bwysau.
- Brwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ledled y ddinas.
- Gallu datrys problemau a defnyddio systemau cymorth cymhleth.
- Sgiliau cyfathrebu, gwrando, negodi a chyfryngu gwych a gallu meithrin perthnasau proffesiynol da gyda defnyddwyr gwasanaeth.
- Profiad o nodi ac asesu anghenion, cynnal ymyriadau byrdymor a sicrhau bod yr unigolion y gweithir â nhw’n teimlo wedi’u grymuso i ddod o hyd i atebion.
- Gallu blaenoriaethu ac addasu i anghenion y gwasanaeth.
- Gwybodaeth fanwl a chyfredol am wasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd.
- Gwybodaeth ymarferol gadarn am feddalwedd Microsoft.
Bydd gan yr unigolyn cywir ymwybyddiaeth o:
- Ymlyniad cynnar
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
- Polisïau diogelu’r Cyngor a bydd yn gallu deall a yw unigolyn mewn perygl ac yn gallu ymgynghori a chydgysylltu â Gweithwyr Cymdeithasol/gweithwyr proffesiynol neu asiantaethau partner eraill yn ôl y gofyn
- Polisïau lles a phresenoldeb yn yr ysgol
- Tai, lles a hawliau i deuluoedd
- Ymyriadau rhianta
- Defnyddio technegau penodol fel Arwyddion Diogelwch, Cyfweld Ysgogiadol ac ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae hwn yn gyfle gwych I ddod yn rhan o Gyngor a Chymorth I Deuluoedd Caerdydd ac i ddefnyddio’ch sgiliau I gefnogi canlyniadau cadarnhaol i fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
I gael mwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Byron Swain, Arweinydd Tîm Anabledd Helpu Teuluoedd ar 07870 484 723.
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini:
• Dan 25 oed.
• Nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
• O’n cymunedau lleol gan gynnwys yn enwedig unigolion anabl, gofalwyr a’r rheiny o gymunedau Pobl Ddu a Lleiafrifol Ethnig a LHDT+ Caerdydd.
• Y gallu i gyfathrebu’n llawn yn y Gymraeg
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau