Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Young Person's Advisor
Disgrifiad o'r swydd
Ymgynghorydd Personol Ôl-ofal 16+ - Carfan y Dwyrain
Disgrifiad Swydd Rydyn ni'n chwilio am Ymgynghorydd Personol brwd a llawn cymhelliant i weithio'n rhan amser (18 awr a hanner) yn ein Gwasanaeth 16+ oed.
Gan weithio at ofynion Deddf Plant 1989, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, bydd yr Ymgynghorydd Personol yn darparu gwasanaethau i bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal ledled Rhondda Cynon Taf.
A chithau'n Ymgynghorydd Personol, byddwch chi'n gweithio'n agos ag aelodau eraill y garfan a gwasanaethau i ddarparu cyngor ac arweiniad i bobl ifainc rhwng 16 a 25 oed er mwyn eu paratoi nhw i fod yn annibynnol a gadael y system ofal. Bydd y gwaith yn cynnwys cwblhau asesiadau risg; llunio Cynlluniau Gofal; cwblhau ceisiadau am lety gyda phobl ifainc; sicrhau bod dodrefn yn eu llety; a'u paratoi nhw ar gyfer pob agwedd wrth iddyn nhw ddechrau byw yn annibynnol.
Mae'r carfanau 16+ wedi'u rhannu'n ddwy ran - y Dwyrain (sy'n gweithio ar draws Cwm Cynon a Thaf-elái) a'r Gorllewin (sy'n gweithio ar draws Cwm Rhondda a Thaf-elái). Dyma swydd yn rhan o Garfan y Dwyrain.
O'ch penodi, bydd raid ichi weithio'n annibynnol ac yn hyblyg, ond bydd angen ichi weithio ar y cyd â Gweithwyr Cymdeithasol i reoli achosion a mynd i gyfarfodydd. Bydd hefyd gofyn ichi weithio'n uniongyrchol gydag asiantaethau partner er mwyn cyflawni'r deilliannau gorau i bobl ifainc. Bydd rhaid ichi feddu ar sgiliau cyfathrebu da a bod â diddordeb mewn gweithio gyda'r grŵp oedran yma.
Mae'r Gwasanaeth 16+ yn gweithio ledled Rhondda Cynon Taf ac mae'r garfan wedi'i lleoli yn Nhŷ Trevithick, er bod trefn gweithio hyblyg ar waith ar hyn o bryd. Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Elizabeth Cole, Rheolwr y Garfan ar (01443) 425006.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'i nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi’n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr