Ysgogydd Cymunedol (Cyfnod Penodol) - Mewnol yn Unig
Dyddiad cau 01/04/2026
Cyflogwr
Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithredwr / Gweithiwr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
Tymor Penodol hyd at 31 Mawrth 2027
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu swyddogaeth Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymunedol yn y Gwasanaeth Atal a Llesiant. Bydd y rôl yn cynyddu cyfranogiad ar lawr gwlad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chymunedau sy'n profi anfantais.
Bydd y swydd yn cynnig darpariaeth weithredol, cydweithredu a datblygu partneriaethau i gryfhau cyfleoedd chwaraeon lleol, cefnogi seilwaith chwaraeon cymunedol cynaliadwy, a chyfrannu at well canlyniadau iechyd a llesiant ar draws y boblogaeth.
Gan weithio mewn partneriaeth â chyrff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon, Chwaraeon Cymru, Partneriaeth Actif Canolbarth y De, ysgolion, darparwyr hamdden a sefydliadau cymunedol, bydd y rôl yn helpu i ddatblygu llwybrau cyfranogiad chwaraeon clir sy'n cyd-fynd â fframweithiau cenedlaethol a blaenoriaethau lleol, gyda ffocws penodol ar ddatblygu llwybrau chwaraeon sy'n canolbwyntio ar Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 01 Ebrill 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Ebrill 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 13 Ebrill 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr