Am bwy rydyn ni’n ‘gofalu’?
Mae yna lawer o bobl wahanol sydd angen gofal. Mae hyn yn cynnwys pobl hŷn, pobl ag anableddau a phlant. Mae gan bawb sydd angen gofal anghenion gwahanol, ac mae gofal yn wahanol i bawb.
Isod, ceir tri gweithgaredd. Yn yr adran hon, mae’n bwysig cofio bod gan bawb anghenion gofal gwahanol, ac mae angen i ni gymryd amser i ddysgu beth sy’n bwysig iddyn nhw. Mae gwneud hyn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom ni i roi’r gofal gorau iddyn nhw!
Gweithgaredd un: Jenny
Bydd angen i ti gael:
- Un darn o bapur
- Beiros/pensiliau
Tasg:
Gweithiwch mewn parau. Dyma Jenny. Mae Jenny yn 80 oed ac mae ganddi gyflwr sy’n golygu nad yw hi’n gallu cerdded. I'w helpu i fynd o gwmpas, mae Jenny yn defnyddio cadair olwyn. Ar eich darn o bapur, ysgrifennwch pa bethau rydych chi'n meddwl y gallai Jenny fod angen help gyda nhw, a beth allai gael ei wneud i'w helpu hi.
Wrth ysgrifennu dy atebion, cofia fod Jenny yn berson hŷn, sydd ag anabledd ac yn defnyddio cadair olwyn.
Gweithgaredd dau: Mei
Mae amgylchedd yn golygu popeth o'n cwmpas, pethau byw a phethau nad ydyn nhw’n fyw.
Bydd angen i ti gael:
- Un darn o bapur
- Beiros/pensiliau lliw
Efallai na fydd rhai plant yn gallu byw gyda'u teulu, am nifer o resymau gwahanol. Mae rhai plant yn mynd i fyw gydag eraill, er enghraifft gofalwr maeth, taid neu nain neu berthynas arall, a fydd yn gofalu amdanyn nhw. Gallai hyn fod yn y tymor byr neu'r tymor hir.
Tasg
Dyma Mei. Mae tad Mei wedi gorfod mynd i’r ysbyty, ac mae’n rhaid i Mei fynd i aros gyda'i nain am wythnos. Gallai byw gyda rhywun newydd fod yn newid mawr ac yn wahanol i'r hyn y mae Mei yn gyfarwydd ag e. Dychmyga pe bai Mei yn dod i fyw atat ti a dy deulu. Pa bethau allet ti eu rhoi i Mei i’w helpu i deimlo’n groesawgar yn dy gartref? Gallai hyn fod yn flanced, gwên gynnes, tedi bêr, neu unrhyw beth arall rwyt ti'n meddwl a fyddai'n helpu Mei i deimlo’n groesawgar. Tynna lun o’r eitemau hyn ar dy ddarnau o bapur.
Wrth ysgrifennu dy ateb, cofia y gallai Mei deimlo’n nerfus, ac efallai y bydd angen cysur a chefnogaeth ychwanegol arni hi.
Gweithgaredd tri: Billy
Bydd angen i ti gael:
- Un darn o bapur
- Beiro
Mae Billy yn ddall, (neu ag amhariad ar y golwg) sy’n golygu na all Billy weld.
Mae Billy yn byw ar ei ben ei hun, a gall fod yn anniogel iddo fynd i siopa ar ei ben ei hun.
Er mwyn helpu Billy i fynd i siopa’n ddiogel, mae ganddo gi tywys o’r enw Charlie. Ci sydd wedi’i hyfforddi i helpu rhai pobl i symud o gwmpas yw ci tywys, a gallant hefyd helpu pobl ddall i deimlo’n hapusach ac yn fwy diogel.
Tasg: Yn y neuadd/tu allan, gosoda rai conau/rhwystrau i'r disgyblion lywio o'u cwmpas.
Rhannwch yn barau. Mae un person yn cau eu llygaid. Mae angen i dy bartner dy dywys drwy'r conau/rhwystrau.
Tasg:
Ateba’r cwestiynau hyn:
- Y person sydd â'i lygaid ar gau: sut roeddet ti'n teimlo wrth ddod o hyd i dy ffordd drwy'r conau gyda dy lygaid ar gau?
- Y person sy’n tywys: pa sgiliau wnes di eu defnyddio i helpu dy ffrind drwy’r conau?
- Wyt ti’n credu bod cŵn tywys yn bwysig i bobl ddall?
- Pam?
Mae'n bwysig cofio bod gwahanol lefelau o ddallineb. Mae rhai pobl yn methu gweld o gwbl, gall rhai pobl weld rhywfaint, ac efallai na fydd eraill yn gallu gweld na chlywed.
Mae rhai pobl ddall yn defnyddio ffon i’w helpu i fynd o gwmpas, fel Billy yn y darlun. Galli di ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o ffyn fan hyn.