Neidio i'r prif gynnwys

Arfon Môn Owen – preswylydd

Symudodd Arfon i Lan Rhos yn 2018. Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, nad oedd yn siarad Saesneg wrth dyfu i fyny, mae Arfon yn dweud bod gallu siarad Cymraeg â’i ofalwyr yn gwneud iddo deimlo’n gartrefol.

“I mi, mae gallu siarad fy iaith gyntaf yma wedi gwneud gwahaniaeth fawr. Dim ond Cymraeg o’n i’n siarad wrth dyfu i fyny, do’n i heb arfer siarad Saesneg. Mae’n braf bod rhai o’r preswylwyr a’r staff yn siarad Cymraeg, mae’n gwneud imi deimlo’n gartrefol."

“Dwi wrth fy modd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau yng Nglan Rhos. ‘Dan ni’n chwarae bingo bob dydd Iau, a dwi ‘di dysgu sut i wau. Ar hyn o bryd, dwi wrthi’n gwau sgarff pinc a gwyn i ferch aelod o staff.

“Dydi Wendy, y cydlynydd gweithgareddau, ddim yn siarad Cymraeg, ond mae’n dallt ambell i air pan ‘dan ni’n gwau.”