Neidio i'r prif gynnwys

Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd

Mae Gofalwn Cymru, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o gyflwyno gwobrau cyntaf Gofalwn Gyda'n Gilydd, seremoni newydd gyffrous i anrhydeddu'r gweithlu medrus ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn rhanbarth Gorllewin Morgannwg.

Nod y gwobrau yw cydnabod cyflawniadau rhagorol, dathlu arferion gorau a thynnu sylw at y cyfraniadau eithriadol a wnaed gan weithwyr proffesiynol yn y sectorau hyn. Cynhelir y digwyddiad ar 13 Mawrth 2026 yn Neuadd Brangwyn Abertawe a chaiff ei reoli gan gwmni rheoli JR Events.

Mae enwebiadau nawr ar agor

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein erbyn 31 Rhagfyr 2025.

Gellir dod o hyd i’r 15 categori a’r meini prawf isod.

I enwebu unigolyn, sefydliad neu leoliad, cliciwch yma.

Telerau ac amodau mynediad

Darllenwch y telerau ac amodau cyn enwebu, os gwelwch yn dda.

Beth yw'r categorïau?

1. Gwobr gofal a thosturi eithriadol

Meini prawf: Tystiolaeth o empathi, caredigrwydd, cefnogaeth emosiynol tuag at unigolion a/neu deuluoedd. Enghreifftiau o'r ffyrdd y gwneir hyn: mae gofal yr enwebai wedi gwella llesiant corfforol, emosiynol neu feddyliol rhywun a/neu maent wedi mynd gam ymhellach wrth ofalu, gan drin pobl ag urddas a pharch. Dylech gynnwys adborth gan gymheiriaid, defnyddwyr gwasanaeth neu deuluoedd sy'n tynnu sylw at ei ymagwedd dosturiol. Sut mae gweithredoedd yr enwebai'n adlewyrchu gwerthoedd ei sefydliad.

2. Gwobr creu dyfodol disglair ar gyfer plant a theuluoedd

Meini prawf: Tystiolaeth o welliannau ystyrlon o ran llesiant, datblygiad neu gymorth i deuluoedd. Defnyddio ymagweddau creadigol, syniadau newydd neu atebion sy'n gwella canlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd, parchu amrywiaeth a hyrwyddo arferion cynhwysol. Camau gweithredu sy'n creu newid parhaus neu'n meithrin gallu ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Adborth cadarnhaol gan blant, teuluoedd neud cydweithwyr sy'n tynnu sylw at effaith yr enwebai.

3. Gwobr seren newydd

Meini prawf: Arwyddion clir o arweinyddiaeth yn y dyfodol, arloesedd neu ragoriaeth yn ei faes. Agwedd ragweithiol, awydd i ddysgu a pharodrwydd i fynd gam ymhellach. Cyfraniadau cynnar sydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth neu gydweithwyr. Ymgorffori gwerthoedd craidd fel cynwysoldeb, tosturi, a pharch, yn enwedig yn unol â blaenoriaethau diwylliannol a chymdeithasol Cymry. Gweithio'n dda gydag eraill, cyfrannu at amgylchedd cadarnhaol a chefnogi cymheiriaid.

4. Gwobr arweinyddiaeth ysbrydoledig

Meini prawf: Arddangos gweledigaeth glir, arweinir gan werthoedd, a darparu canlyniadau ystyrlon i ddefnyddwyr gwasanaethau neu dimau. Cefnogi, mentora a grymuso cydweithwyr, gan feithrin twf a magu hyder. Arwain gydag empathi, uniondeb cymeriad a pharch, yn enwedig mewn amgylchiadau heriol. Hyrwyddo cydraddoldeb, treftadaeth ddiwylliannol, a'r Gymraeg yn ei ymagwedd at arweinyddiaeth. Ymateb yn greadigol i newid, ysgogi gwelliant ac annog syniadau newydd. Caiff ei gydnabod gan ei gymheiriaid a'i dimau fel model rôl sy'n creu argraff barhaol.

5. Gwobr tîm y flwyddyn

Meini prawf: Arddangos gwaith tîm, cyfathrebu, a chyd-gymorth rhagorol. Tystiolaeth glir o ganlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd trwy ymdrech ar y cyd. Mynd i'r afael a heriau'n greadigol ac addasu i newid fel tîm unedig. Ymgorffori gwerthoedd fel tosturi, cydraddoldeb a pharch diwylliannol, gan gynnwys hyrwyddo'r Gymraeg. Meithrin amgylchedd cadarnhaol, cynhwysol sy'n cefnogi llesiant a thwf proffesiynol. Geirdaon neu gymeradwyaeth sy'n adlewyrchu enw da a dylanwad y tîm.

6. Gwobr arbenigwr dementia

Meini prawf: Dangos dealltwriaeth ddofn o ddementia a rhoi arferion gorau ar waith ym meysydd gofal a chefnogaeth. Blaenoriaethu hunaniaeth, dewisiadau ac urddas yr unigolyn ym mhob agwedd ar ofal. Cyflwyno syniadau, dulliau neu ymagweddau newydd sy'n gwella ansawdd bywyd pobl sydd â dementia. Hyrwyddo dealltwriaeth o ddementia ymhlith cydweithwyr, teuluoedd neu'r gymuned ehangach. Meithrin ymddiriedaeth, cysylltiad â diogelwch emosiynol pobl sy'n byw gyda dementia. Integreiddio’r Gymraeg, a diwylliant a gwerthoedd cynhwysol Cymru wrth ofalu am bobl sydd â dementia.

7. Gwobr gyflogwr

Meini prawf: Arddangos ymrwymiad i lesiant staff, datblygiad proffesiynol ac amgylchedd gwaith cadarnhaol. Gwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a gwerthoedd diwylliannol Cymru, gan gynnwys hyrwyddo’r Gymraeg. Buddsoddi mewn ymagweddau newydd, dysgu parhaus a datblygiad gwasanaeth. Creu amodau sy’n galluogi gofal a chefnogaeth o safon uchel ar gyfer y bobl y mae’n eu gwasanaethu. Dangos cyfeiriad, ymateboldeb i heriau ac ymrwymiad clir i ragoriaeth y sector. Geirdaon cadarnhaol gan staff, rhanddeiliaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n adlewyrchu enw da’r cyflogwr.

8. Gwobr gwirfoddolwr ysbrydoledig

Meini prawf: Rhoi amser ac ymdrech i gefnogi eraill yn rheolaidd, gan fynd gam ymhellach yn aml. Tystiolaeth o gyfraniadau ystyrlon sy’n gwella bywydau neu’n cryfhau cysylltiadau cymunedol. Arddangos caredigrwydd, dealltwriaeth a chefnogaeth emosiynol yn eu rôl wirfoddol. Cymryd camau rhagweithiol, ysbrydoli eraill neu’n arwain ymdrechion gwirfoddol gyda chreadigrwydd a gofal. Hyrwyddo cydraddoldeb, treftadaeth ddiwylliannol a’r Gymraeg yn ei waith gwirfoddol. Geirdaon gan y bobl y mae wedi’u helpu neu wedi gweithio gyda nhw sy’n tynnu sylw at ei rinweddau ysbrydoledig.

9. Gwobr arloeswr gofal

Meini prawf: Cyflwyno syniadau, ddulliau neu ymagweddau newydd sy’n herio’r trefniadau arferol ac yn gwella gofal. Arddangos gwelliannau mesuradwy neu weladwy o ran meysydd llesiant, mynediad neu ganlyniadau. Ysbrydoli pobl eraill, ysgogi newid ac yn annog mabwysiadu arferion arloesol. Sicrhau bod arloesedd yn gynhwysol ac yn adlewyrchu’r Gymraeg a gwerthoedd diwylliannol. Dangos potensial ar gyfer llwyddiant tymor hir neu roi cynlluniau ar waith yn ehangach ar draws y sector. Cymeradwyaeth gan gymheiriaid, defnyddwyr gwasanaeth neu randdeiliaid.

10. Gwobr llwyddiant gydol oes

Meini Prawf: Arddangos effaith barhaus a sylweddol dros lawer o flynyddoedd o wasanaeth. Wedi ysbrydoli eraill, llunio arferion a chyfrannu at welliannau ar draws y sector. Ymgorffori tosturi, cynhwysiant a pharch diwylliannol, gan gynnwys yr iaith a threftadaeth Cymru. Wedi cyflwyno neu hyrwyddo ymagweddau arloesol sydd wedi cael effaith sylweddol. Wedi cefnogi twf pobl eraill ac wedi helpu i adeiladu gweithlu cryfach, mwy gwydn. Caiff ei barchu’n fawr gan gymheiriaid, a’i gymeradwyo mewn modd sy’n adlewyrchu ei dylanwad a’i enw da.

11. Gwobr dysgwr y flwyddyn

Meini Prawf: Dangos ymroddiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol, gan oresgyn heriau’n aml. Arddangos twf clir, datblygiad o ran sgiliau, neu lwyddiant academaidd. Rhoi gwybodaeth neu sgiliau newydd ar waith i wella arferion, cefnogi eraill neu ysgogi newid. Dyfalbarhau yn wyneb rwystrau gyda agwedd gadarnhaol a chymhelliant cryf. Gwreiddio’r Gymraeg, a diwylliant neu werthoedd cynhwysol Cymru yn ei daith ddysgu. Geirdaon gan diwtoriaid, mentoriaid neu gydweithwyr sy’n tynnu sylw at ei effaith.

12. Gwobr y Gymraeg a diwylliant Cymru

Meini prawf: Defnyddio ac hyrwyddo’r Gymraeg yn eu rôl neu ei sefydliad. Gwreiddio traddodiadau, gwerthoedd neu dreftadaeth Cymru mewn arferion, digwyddiadau neu wrth adrodd straeon. Sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb, ni waeth am gefndir. Defnyddio ymagweddau creadigol i ennyn diddordeb pobl eraill yn y Gymraeg a diwylliant Cymru. Arddangos sut mae ei ymdrechion wedi cryfhau hunaniaeth ddiwylliannol neu gysylltiad a’r gymuned. Geirdaon neu gymeradwyaeth sy’n adlewyrchu dylanwad diwylliannol ac arweinyddiaeth yr enwebai.

13. Gyda'n gilydd dros gydraddoldeb

Meini prawf: Arddangos ymrwymiad clir a pharhaus i hyrwyddo cydraddoldeb mewn ymarfer, polisi neu ddiwylliant. Cynnwys a hyrwyddo lleisiau and cynrychiolir yn ddigonol, gan sicrhau urddas a pharch i bawb. Tystiolaeth o newid cadarnhaol sy’n deillio o ymagweddau at gydraddoldeb, gan wella mynediad. Gweithio gydag eraill i wella cydraddoldeb a rhannu chyfrifoldeb. Cynnwys y Gymraeg a threftadaeth Cymru fel rhan o arferion cynhwysiant a chydraddoldeb.

14. Gwobr cyflogwr rhyngwladol Gofalwn Gyda'n Gilydd

Meini prawf: Arddangos cefnogaeth weithredol i hunaniaethau diwylliannol, iaith, traddodiadau ac arferion crefyddol gweithwyr rhyngwladol. Darparu mentorau sefydlu, mentrau a meithrin cymunedau sy’n gadarn er mwyn helpu staff rhyngwladol i ymgartrefu a ffynnu. Cynnig hyfforddiant, datblygiad gyrfa a chydnabyddiaeth wedi’u teilwra i anghenion ac uchelgeisiau gweithwyr rhyngwladol. Dilyn safonau recriwtio moesegol a sicrhau triniaeth, cyflog ac amodau gwaith teg. Sicrhau bod gan weithwyr rhyngwladol blatfformau i rannu adborth, cyfrannu syniadau a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Darparu gwasanaethau cyfieithu, hyfforddiant iaith neu adnoddau dwyieithog i gefnogi cyfathrebu effeithiol.

15. Gwobr gweithiwr rhyngwladol gofalwn gyda'n gilydd

Meini prawf: Arddangos empathi, caredigrwydd a gofal ystyriol yn ddiwylliannol yn eu waith o ddydd i ddydd. Cyfoethogi’r gweithle drwy dreftadaeth ddiwylliannol, iaith neu draddodiadau sy’n meithrin cynwysoldeb. Dangos cryfder a hyblygrwydd wrth oresgyn heriau sy’n gysylltiedig ag adleoli, iaith neu integreiddio. Meithrin perthnasoedd cryf a chydweithwyr a chyfrannu’n gadarnhaol at ddynameg tîm. Rhannu syniada ac adborth yn weithredol neu eiriol dros bobl eraill, gan helpu i lunio amgylchedd mwy cynhwysol. Arddangos datblygiad proffesiynol, mentergarwch neu effaith ystyrlon ar ddefnyddwyr gwasanaeth neu gymheiriaid.

Noddi

I unrhyw un sydd â chwestiynau, gan gynnwys cyfleoedd noddi, cysylltwch â hello@jr-eventgroup.co.uk neu sarah.taylor@swansea.gov.uk