Taith prentisiaeth Caitlin
Enw: Caitlin
Swydd: Cylch Meithrin Childcare Assistant
Cymhwyster prentisiaeth: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer (GChDDP )

Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf am weithio gyda phlant yw eu gwylio yn tyfu ac yn datblygu. Mae pob plentyn yn unigryw, ac mae bod yno i'w hannog i gwblhau carreg filltir yn hynod o werth chweil. Dwi hefyd yn hoffi gwneud i'r plant wenu. Mae bod yn rhywun sy'n gallu gwneud iddyn nhw chwerthin a gwenu yw'r un o'r teimladau gorau!
Y camau nesaf rwyf newydd ddechrau yn fy ngyrfa yw cwblhau'r cwrs pontio i waith Chwarae. Rwyf hefyd yn awyddus i gwblhau fy nghwrs Lefel 4 + 5 paratoi ar gyfer arweinyddiaeth a rheoli. Bydd y ddau yn fy helpu i dyfu a datblygu fy ngyrfa.
Mae cwblhau'r brentisiaeth wedi gwella fy sgiliau a'm hyder yn sylweddol wrth weithio gyda phlant. Mae wedi gwella fy ngwybodaeth ac wedi dysgu technegau amrywiol i mi ar gyfer rheoli plant a sut i'w helpu i ddatblygu ymhellach.
Fy nghyngor i unrhyw un sydd eisiau cwblhau prentisiaeth GChDDP yw gwneud hynny. Os byddwch yn dangos eich bod yn fodlon rhoi amser ac ymdrech i mewn, bydd eich asesydd yn cyfateb i'ch ymrwymiad i helpu i'ch tywys drwy'r cwrs. Yn bersonol, roedd gwneud y brentisiaeth yn fy switio’n dda gan fy mhod wedi dysgu rheoli fy amser yn effeithiol a gweithio o gwmpas fy oriau i gwblhau'r tasgau ar amser.
Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, roedd yn gwneud mwy o synnwyr i mi gwblhau fy nghwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Llwyddais i drosglwyddo fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o gynnwys y cwrs yn hawdd. Roedd cwblhau'r cwrs trwy'r Gymraeg, gydag asesydd sy'n siarad Cymraeg, yn gwneud y broses yn llawer haws i mi oherwydd roeddwn i'n gallu cyfathrebu drwy'r iaith rydw i'n fwyaf hyderus ynddi. Byddaf yn cwblhau fy nghyrsiau yn y dyfodol, os yn bosibl, drwy gyfrwng y Gymraeg gan fy mod wedi derbyn cefnogaeth anhygoel wrth gwblhau prentisiaeth GChDDP.