Neidio i'r prif gynnwys

Helen Dobson

Gweithiwr Cymdeithasol

Roedd Helen yn athrawes gyflenwi mewn ysgolion cynradd am ddeng mlynedd ar hugain, ond un diwrnod penderfynodd ei bod eisiau gwneud mwy i wneud gwahaniaeth, felly gwnaeth ei MSc mewn Gofal Cymdeithasol a daeth yn Weithiwr Cymdeithasol.

Holi ac Ateb gyda Helen

Beth wnaeth i chi fod eisiau ailhyfforddi fel Gweithiwr Cymdeithasol?

Roeddwn bob amser yn teimlo fy mod i eisiau gwneud rhywbeth mwy, a rhoi ychydig mwy yn ôl i'r gymuned. Roeddwn yn 48 oed pan ddechreuais fy nghwrs meistr ôl-radd Gofal Cymdeithasol, ond roedd yn teimlo'n iawn. Mae'n ymddangos bod popeth wedi disgyn yn berffaith i'w le rwan, ac ni fyddwn yn newid dim byd.

Dywedwch ychydig mwy wrthym am yr heriau yn eich rôl.

Yn amlwg, gall fod yn swydd anodd, ac nid eich 9-5 arferol mohoni, ond mae’r gwobrau’n gorbwyso popeth. Rydych chi'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd, ac rydw i mor ddiolchgar i allu gwneud hynny.

A fyddech chi'n argymell gyrfa mewn gofal?

Ydw - os ydych chi wir yn angerddol am wneud gwahaniaeth yna dyna'r yrfa orau. Rydw i bob amser yn dysgu pethau newydd ac rydw i'n brysurach nag erioed, ond rydw i wrth fy modd.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started