Neidio i'r prif gynnwys

Rhaglen brentisiaethau Cyngor Sir Ceredigion

Mae Lynne Uwch Swyddog Datblygu a Chydgysylltydd Prentisiaethau yn gofalu am raglen brentisiaethau Cyngor Sir Ceredigion, sy’n cwmpasu prentisiaethau traddodiadol yn ogystal ag uwchsgilio staff, i gyflwyno cyfleoedd newydd i’r cyngor.

Soniwch am eich swydd?

Rwy’n gweithio gyda rheolwyr a swyddogion adnoddau dynol ar strategaethau cynllunio a recriwtio’r gweithlu i helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau. Rwyf hefyd yn helpu rheolwyr i gael gwell dealltwriaeth o fanteision prentisiaid ac yn cefnogi’r prosesau hysbysebu, recriwtio a chyfweld. Rwyf hefyd yn gweithio gydag ysgolion a chydweithwyr.

Mae gen i gefndir ym maes adnoddau dynol a dysgu a datblygu. Pan welais y swydd prentisiaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion fe wnes i feddwl y byddai’n rhoi sylw i bopeth rwy’n ei hoffi am roi cyfleoedd ac addysg newydd i bobl.

Pam mae’r rhaglen brentisiaethau mor bwysig?

Ein prif sbardun fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal yw cyfrannu at greu cyfleoedd gyrfa ystyrlon i bobl ifanc a’r rhai sydd am newid gyrfa.

Credwn fod hyn yn dod â thalent newydd i’r gweithlu ac yn cefnogi pobl i aros yng Ngheredigion. Efallai mai ein prentisiaid fydd rheolwyr yfory, ac rydym yn gwir werthfawrogi a chefnogi eu datblygiad yn y Cyngor.

Mae ein rhaglen brentisiaethau hefyd wedi cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ar gyfer rhai o’n prentisiaid. Drwy weithio i’r Cyngor maen nhw wedi llwyddo i gadw a gwella eu sgiliau Cymraeg ers gadael yr ysgol.

Disgrifiwch sut mae’r rhaglen brentisiaethau wedi esblygu?

Y protocol cyntaf oedd cael rheolwyr i ddeall manteision prentisiaethau ac esbonio sut y byddai’n gweithio gyda’u busnes.

Roedd hyn yn golygu rhywfaint o ymchwil i ddechrau. Fe wnes i hyn drwy rwydweithio â sefydliadau eraill fel Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Mae’r Ffederasiwn yn helpu i ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant lleol i ddarparu’r cymhwyster prentisiaeth.

Rydym wedi recriwtio 17 o brentisiaid ers 2018 ac mae wyth o’r rhain wedi bod yn y sector gofal cymdeithasol. Rydym wedi cael pum swydd rheng flaen fel cynorthwywyr gofal a gweithwyr ieuenctid ar brentisiaeth, a thair swydd weinyddol gefnogol.

Mae aeddfedrwydd a phroffesiynoldeb ein prentisiaid wedi disgleirio dros y tri blynedd diwethaf. Mae trigolion cartrefi gofal wedi dweud eu bod yn hoffi rhyngweithio â gweithwyr iau. Rydym wedi gweld manteision gwaith sy’n pontio’r cenedlaethau a’r perthnasoedd cadarnhaol sydd wedi’u meithrin yn sgil hyn.

Disgrifiwch eich proses recriwtio?

Rydym yn hysbysebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwefan y cyngor a thrwy fynychu ffeiriau gyrfaoedd ac ysgolion uwchradd. Rydym yn targedu rhieni drwy sefydliad lleol, cysylltiadau cymunedol a cholegau addysg bellach.

Rydym yn cadw ein negeseuon yn syml, drwy greu fideos i roi cipolwg o’r rhaglen a beth yw’r yrfa. Allwch chi ddim ysgrifennu pethau fel hyn mewn swydd-ddisgrifiad. Maen nhw’n clywed gan brentisiaid a’r bobl y byddan nhw’n gweithio gyda nhw o bosibl.

Mae ein dull cyfweld ac ymgeisio yn cael ei deilwra i bob swydd. Rydym yn cynllunio cwestiynau a thasgau sy’n helpu’r ymgeiswyr i ddangos eu gwerthoedd, cryfderau, rhinweddau a phrofiad bywyd.

Rydym yn gofyn i ymgeiswyr gwblhau tasg ymarferol y gallant ei pharatoi cyn y cyfweliad. Er enghraifft, gwneud bocs atgofion go iawn neu rithwir neu restr o weithgareddau yn seiliedig ar broffil cyffredinol preswylydd mewn cartref gofal a ddarperir gennym ni.

Yn ystod y cyfweliad bydd yr ymgeisydd yn dweud wrthym pam ei fod wedi dewis yr eitemau neu’r gweithgareddau hynny. Mae hyn yn helpu pobl i ddangos ‘dull sy’n canolbwyntio ar y person’, eu gwerthoedd a’u priodweddau gofalu, hyd yn oed pan nad oes ganddynt brofiad o weithio yn y sector gofal cymdeithasol o bosibl.

Pa gymorth sydd ar gael i reolwyr sy’n cyflogi prentisiaid?

Mae’n rhaid cael tîm i sicrhau llwyddiant prentisiaeth. Rwy’n cefnogi rheolwyr i gynllunio’r swydd-ddisgrifiad ac yna drwodd i’n nod o gyflogi’r prentisiaid y barhaol – i gwblhau’r brentisiaeth.

Rwy’n cynnal sesiynau gwybodaeth ar gyfer rheolwyr ac yn herio’r camdybiaethau. Ar ôl i ni benodi rhywun rydym yn trafod ei drefniadau sefydlu ac yn cyfarfod bob chwe wythnos.

Rwy’n cadw mewn csylltiad â rheolwyr hyfforddiant i weld sut mae’r cymhwyster yn mynd ac yn cynnal rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid i reolwyr sy’n dod ynghyd i rannu eu gwaith.

Pa gymorth sy’n cael ei roi i brentisiaid?

Mae prentisiaid yn cael cyfnod sefydlu a rhaglen strwythuredig. Ers dechrau gweithio’n rhithwir rydym wedi darparu mwy o gymorth a mentora. Rydym hefyd yn sicrhau eu bod yn cael yr holl fuddion a’r cyfleoedd datblygu y mae gweithwyr eraill yn eu cael.

Rydym yn cysylltu prentisiaid cyfredol â phrentis sydd wedi cwblhau’r cymhwyster yn y gorffennol. Ar ôl chwe mis rydym yn dod at ein gilydd i drafod cyfleoedd parhaol a allai fod ar gael.

Rwy’n cynnal cyfweliadau un-i-un gyda phrentisiaid i ddangos eu llwyddiannau ac yn rhannu hyn ar y fewnrwyd i geisio annog rheolwyr eraill i ystyried recriwtio.

Pam ddylai cyflogwyr eraill ystyried cymhwyster prentisiaeth?

Mae gwybod eich bod chi wedi cyfrannu mewn ffordd fach at sefydlu gyrfa rhywun yn ogystal â chyfrannu at gryfder eich sefydliad yn rhoi teimlad gwych i rywun.

Rydym yn argymell y rhaglen brentisiaethau gan ei bod yn denu talent newydd a chyfleoedd gyrfa i bobl ifanc a’r rhai sydd am newid gyrfa.

O safbwynt cyflogwr, mae wedi talu ar ei ganfed. Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaid wedi sicrhau swyddi parhaol. Mae’r sgiliau a’r brwdfrydedd maen nhw wedi’u cyflwyno i’r cyngor yn anhygoel. Mae rhai wedi cael dyrchafiad ac wedi dechrau ar eu taith o yrfa hir gyda ni yma yng Ngheredigion gobeithio.Convert to Blocks