Neidio i'r prif gynnwys

Cymhwysedd

Dysga am y sgiliau sydd gen ti’n barod, a sut rwyt ti’n eu defnyddio i ofalu.

Mae cymhwysedd yn golygu dysgu'r sgiliau i wneud rhywbeth yn dda iawn.

Cymhwysedd yw cael y gallu i wneud tasg drwy ddefnyddio dy sgiliau a dy wybodaeth.

Gweithgaredd un: Llun a stori

Bydd angen i ti gael:

  • Un darn o bapur
  • Beiros/pensiliau lliw

Tasg

  1. Ysgrifenna rywbeth y gwnes di i helpu rhywun ac yna tynna lun sy’n dangos sut wnes di eu helpu nhw.

Gallai hyn gynnwys helpu un o dy ffrindiau pan maen nhw'n teimlo'n drist neu helpu aelod o'r teulu gartref. 

    2. O amgylch dy lun, ysgrifenna pa sgiliau wnes di eu defnyddio.

Mae enghreifftiau'n cynnwys datrys problemau, cyfathrebu a gwrando.

Fe weli di dy fod ti’n gwneud llawer o bethau i helpu pobl, heb sylweddoli hynny.

Os gallwn ni i gyd wneud un peth bach i helpu pawb bob dydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr iawn i hapusrwydd ac iechyd pobl eraill.

Gweithgaredd dau: Gofalu am tedi

Bydd angen i ti gael:

  • Tedi bêrs (neu ddoliau/ffigyrau antur)
  • Sgwariau gludiog
  • Beiro/pensiliau

Tasg

Rhannwch i grwpiau o bedwar. Mae gan bob grŵp dedi bêr neu degan. Mae’r tedi bêr yn teimlo’n drist, yn oer ac yn llwglyd.

Mae gen ti dri sgwâr gludiog o dy flaen, ateba bob un o'r cwestiynau hyn ar y sgwariau gludiog:

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth y tedi bêr i’w wneud i deimlo’n hapus?

Beth fyddet ti’n ei wneud i wneud tedi bêr yn llai oer?

Sut fyddet ti’n darganfod beth mae’r tedi bêr eisiau ei fwyta?

Ar ôl i ti orffen, glyna nhw o amgylch y tedi bêr gan godi’r tedi bêr i’r awyr.

Pwrpas y gweithgaredd hwn yw chwarae rôl gofalu am rywun.

Fe wnaethon ni sôn yn gynharach, mae gan bawb anghenion gofal gwahanol. Mae’r tedi yn drist, yn oer ac yn llwglyd. Wyt ti’n gallu defnyddio dy sgiliau a dy wybodaeth i ddarganfod sut i wneud y tedi yn hapusach ac yn llai oer?

Sut fyddet ti'n darganfod beth mae eisiau ei fwyta? Os felly, rwyt ti wedi defnyddio cymhwysedd i wneud hyn.

Gall gofal a chymorth helpu pobl i deimlo'n dda, yn hapus ac yn gryf, felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando ar yr hyn sydd ei angen arnyn nhw pan fyddwn ni'n gofalu amdanyn nhw.