Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Mae Gofalwn Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn noddi'r diwrnod ar 6 Awst gyda'n Diwrnod Gofal.

Mwy yma

Cynllun cyfweliad gwarantedig i gyflogwyr

Rydym am eich helpu i greu cronfa dalent o weithwyr gofal cymdeithasol.

Cofrestru i gyflogwyr

Am y cynllun

Mae'r cynllun hwn ar gael i helpu unrhyw un sydd wedi cwblhau'r rhaglen Cyflwyniad i ofal cymdeithasol i gael cyfweliad, gan ei gwneud yn haws iddyn nhw gael swydd ym maes gofal cymdeithasol.

  • Mae'r cynllun hwn yn bartneriaeth gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i helpu pobl sy'n chwilio am swyddi a chyflogwyr.
  • Mae'n cyflymu'r broses recrwitio 
  • Mae hefyd yn helpu cyflogwyr i ddod o hyd i bobl sydd â diddordeb gwirioneddol mewn gwaith gofal cymdeithasol.

Sut mae'n gweithio

Ar ddiwedd y rhaglen tri diwrnod Cyflwyniad i ofal cymdeithasol, bydd pobl sydd wedi cwblhau'r rhaglen yn cael mynediad at ein cynllun cyfweliad gwarantedig gan roi'r cyfle iddynt drefnu cyfweliad yn uniongyrchol gyda chi.

Bydd cyfranogwyr yn gallu hidlo'r cyfleoedd hyn ar y dudalen porthol swyddi yma. 

Bydd sefydliadau sydd wedi ymuno â’r cynllun hefyd i’w gweld yn ein Rhestr Cyflogwyr, lle gall cyfranogwyr chwilio a holi am gyfleoedd ehangach y gallech eu cynnig, megis lleoliadau gwirfoddol, prentisiaethau, lleoliadau gwaith, neu nawdd.

Sut mae'n gweithio

  • Cofrestrwch fel cyflogwr.
  • Uwchlwythwch eich swyddi a ticiwch y blwch cyfweldiad gwarantedig.
  • Dylech gynnwys y geiriad y cytunwyd arno yn eich hysbyseb i ddangos eich bod yn rhan o'r cynllun:
  • "Rydym yn rhan o gynllun cyfweldiad gwarantedig Gofalwn Cymru. Dilynwch unrhyw ganllawiau cymhwysedd yn yr hysbyseb ac anfonwch gopi o'ch tystysgrifau cyflwyniad i ofal cymdeithasol. Byddwn mewn cysylltiad pan fyddwn wedi derbyn eich gwybodaeth."
  • Ychwanegwch feini prawf cymhwysedd clir i gael mynediad i'r cynnig e.e. angen trwydded yrru yn y DU.
  • Rhowch wybod i ni am gyfleoedd eraill fel gwirfoddoli/lleoliadau gwaith wrth gofrestru.


Employer list

Mae'r rhestr cyflogwyr hon ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau'r cwrs Cyflwyniad i ofal cymdeithasol.
"Mae'n gynllun ardderchog sy'n rhoi cyflwyniad cryf i'r sector. Mae gan y bobl rydyn ni wedi'u cyflogi hyd yma agweddau gwych, dealltwriaeth dda o'u rolau newydd a dyfodol disglair o'u blaenau."
Richard Barnes, Pennaeth Denu Talent - Pobl