Cynllun cyfweliad gwarantedig

Am y cynllun
Mae'r cynllun hwn ar gael i helpu unrhyw un sydd wedi cwblhau'r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol i gael cyfweliad, gan ei gwneud yn haws iddyn nhw gael swydd ym maes gofal cymdeithasol.
- Mae'r cynllun hwn yn bartneriaeth gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i helpu pobl sy'n chwilio am swyddi a chyflogwyr.
- Mae'n cyflymu'r broses recrwitio
- Mae hefyd yn helpu cyflogwyr i ddod o hyd i bobl sydd â diddordeb gwirioneddol mewn gwaith gofal cymdeithasol.
Sut mae'n gweithio
Ar ddiwedd y rhaglen Cyflwyniad i ofal cymdeithasol, bydd gan gwblheiriaid fynediad i'n cynllun cyfweld gwarantedig. Mae'r cynllun hwn yn eich galluogi i drefnu cyfweliadau'n uniongyrchol gyda chyflogwyr sy'n rhan o'r rhaglen.
Hidlo'r cyfleoedd hyn
1. Ewch i'r porth swyddi: Ewch i'n tudalen porth swyddi yma.
2. Pori a hidlo swyddi: Cliciwch yr opsiwn "neu porwch a hidlwch yr holl swyddi".
3. Gweld swyddi gwag: Bydd hyn yn arddangos yr holl swyddi gwag presennol ar y wefan.
4. Hidlo ar gyfer Cyfweliad Gwarantedig: Ar yr ochr dde, ticiwch y blwch "Dangos cyflogwyr sy'n cynnig Cyfweliad Gwarantedig yn unig".
5. Chwilio eto: Pwyswch y botwm "chwilio eto" i gymhwyso'r hidlydd.
Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd sy'n cynnig Cyfweliad Gwarantedig.
I wneud cais, bydd angen eich tystysgrif cwblhau arnoch. Darllenwch yr hysbysebion swydd yn ofalus i sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol cyn gwneud cais.
"Mae'n gynllun ardderchog sy'n rhoi cyflwyniad cryf i'r sector. Mae gan y bobl rydyn ni wedi'u cyflogi hyd yma agweddau gwych, dealltwriaeth dda o'u rolau newydd a dyfodol disglair o'u blaenau."