fbpx
Skip to main content

Datganiad hygyrchedd

 

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan
  • rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall
  • mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni allwch addasu uchder llinell na bylchau testun
  • mae cyferbyniad lliw testun blaendir i’r testun lliw cefndir yn annigonol ar lawer o dudalennau
  • mae bwydlenni gwympo heb unrhyw ddisgrifiad ar lawer o dudalennau sy’n ei gwneud hi’n anodd i ddarllenwyr sgrin
  • mae botwm cyflwyno ar goll ar ddetholwyr hidlwyr a ddefnyddir ar y wefan – gan ei gwneud hi’n anodd rheoli ei swyddogaeth
  • nid yw elfennau ffurf a ddefnyddir ar y wefan wedi’u grwpio sy’n ei gwneud hi’n anodd i ddarllenwyr sgrin wybod bod yr elfennau ffurf wedi’u cysylltu
  • dim ond i ddarllenwyr sgrin y mae sgipio i’r brif ddewislen cynnwys yn weladwy ac wrth ddefnyddio’r bysellfwrdd i lywio’r wefan
  • mae côd ar goll ar y ffurflenni a ddefnyddir ar y wefan
  • defnyddir dolenni sy’n cael eu hadnabod yn ôl lliw yn unig
  • defnyddir dolenni heb ddisgrifiadau ystyrlon sy’n ei gwneud hi’n anodd gwybod cyrchfan y ddolen
  • mae yna dudalennau heb bennawd lefel uchaf sy’n anodd dilyn strwythur y dudalen

 

Beth i’w wneud os na allwch defnyddio rhannau o’r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille e-bostiwch cyswllt@gofalwn.cymru neu ffoniwch 0300 30 33 444.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn saith diwrnod gwaith.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydyn ni’n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy e-bostio cyswllt@gofalwn.cymru neu ffoniwch 0300 30 33 444.

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Gallwn ddarparu gwasanaeth testun i bobl sy’n B/byddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd. Mae dolenni sefydlu sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch chi’n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Ewch in tudalen Cysylltu â ni.

 

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir.

 

Sut wnaethon ni brofi’r wefan hon

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 5 Hydref 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Ofal Cymdeithasol Cymru gan ddefnyddio teclyn profi hygyrchedd o’r enw SiteImprove a phrofi â llaw.

Paratowyd y datganiad hwn ar 29 Ionawr 2020. Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Hydref 2020.